Cyhoeddi enwebiadau Gwobrau Dewi Sant 2019
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cyhoeddi enwau'r rheiny sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant eleni.
Mae'r gwobrau, sydd yn eu chweched flwyddyn, yn cydnabod llwyddiannau a chyfraniadau pobl ym mhob maes sy'n byw yng Nghymru neu sy'n dod o Gymru.
Ymysg y rheiny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mae Theatr Clwyd, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, ac enillydd y Tour de France, Geraint Thomas.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar 21 Mawrth.
'Cyfraniadau arwrol'
Dywedodd Mr Drakeford: "Mae'n rhaid i mi ddweud bod yr holl dalent anhygoel sydd gan Gymru mewn cymaint o wahanol feysydd wedi creu argraff fawr arna i.
"Mae'r gwobrau hyn yn ddathliad, yn cydnabod llond dwrn o bobl anhygoel o'r cannoedd a gafodd eu henwebu.
"Mae cyfraniadau'r bobl hyn yn arwrol... mae pob person a sefydliad yma yn destun balchder i'n gwlad."
Yr enwebiadau'n llawn
Dewrder
Andrew Niinemae - Peryglodd ei fywyd ei hun a chafodd niwed difrifol i'w goes yn ceisio atal car rhag gyrru i mewn i griw o bobl y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd;
Ceri ac Aaron Saunders - Mam a mab lwyddodd i achub bachgen 10 oed oedd mewn trafferthion yn y môr ar Benrhyn Gŵyr;
Darran Kilay - Rhoddodd ei hun mewn sefyllfa beryglus er mwyn helpu'r heddlu pan ddaeth dyn ato ef a'i gydweithiwr yn chwifio cyllell.
Dinasyddiaeth
Bugeiliaid y Stryd Caerdydd - Menter gan 25 o eglwysi lleol sy'n gwirfoddoli o amgylch y brifddinas i helpu'r rhai sydd mewn angen;
Emma Picton-Jones - Sefydlodd elusen DPJ Foundation i helpu pobl yn y gymuned wledig sydd â phroblemau iechyd meddwl wedi i'w gŵr Daniel ladd ei hun;
Glenys Evans - Un o sefydlwyr Canolfan Therapi Plant Bobath Cymru, elusen sy'n rhoi therapi arbenigol i blant sy'n cael diagnosis o barlys yr ymennydd;
Janet Rogers MBE - Gwirfoddolwr a chynrychiolydd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Cymdeithas Ponthafren, elusen sy'n rhoi cymorth iechyd meddwl yng ngogledd Powys.
Diwylliant
Elfed Roberts - Prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol am 25 mlynedd nes iddo ymddeol ym mis Awst;
Fiona Stewart - Prif weithredwr a pherchennog gŵyl flynyddol y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog, ddechreuodd yn 2003;
Cwmni Theatr Hijinx - Cwmni perfformio sy'n defnyddio actorion ag anawsterau niwrolegol ac anableddau dysgu yn eu cynyrchiadau;
Theatr Clwyd - Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi creu 23 o gynyrchiadau, gyda dros 700,000 o bobl wedi gweld eu sioeau.
Menter
Hilltop Honey - Sefydlwyd y cwmni sy'n gwerthu mêl organig yn 2011, ac ers hynny mae ei drosiant wedi cynyddu o £234,000 i dros £4m;
Jem Skelding - Prif swyddog gweithredol Naissance, cwmni sy'n gwerthu cynnyrch iechyd a harddwch organig, sydd bellach yn cyflogi 134 o bobl yn y DU a'r Almaen;
Steve Downey - Perchennog cwmni Hannaman Material Handling, sy'n arbenigo mewn darparu gwasanaeth trin deunyddiau.
Rhyngwladol
Dr Laith al-Rubaiy - Gastroenterolegydd o Gaerdydd sy'n gwirfoddoli gyda'r AMAR Foundation i ddarparu triniaethau meddygol i rai o ddinasyddion tlotaf Irac;
Liam Rahman - Astudiodd yng Ngholeg Yale-NUS Singapôr a Phrifysgol Yale yn yr Unol Daliaethau cyn dychwelyd i Gymru i fod yn gyfarwyddwr E-Qual Education;
Rhinal Patel - Rhoddodd y gorau i yrfa'n gweithio gydag enwogion i deithio'r byd a helpu pobl llai ffodus na hi ei hun, gan sefydlu elusen Pursuit of Happiness.
Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Canolfan Arloesi Cerebra - Elusen sy'n helpu teuluoedd â phlant sydd â chyflyrau ar yr ymennydd;
Go Safe Cymru - Partneriaeth rhwng y pedwar llu heddlu, y 22 awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i wneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel;
Ian Bond - Dyn busnes wedi ymddeol o Aberdâr, sydd wedi defnyddio ei gyflwr cronig i greu busnes sy'n cynnig systemau iechyd digidol.
Chwaraeon
Geraint Thomas OBE - Llwyddodd i fod y Cymro cyntaf i ennill ras seiclo eiconig y Tour de France yn haf 2018;
Jess Fishlock MBE - Aelod o dîm pêl-droed merched Cymru ers 2006 a'r chwaraewr cyntaf i ennill 100 cap i'r tîm cenedlaethol;
Menna Fitzpatrick MBE - Â hithau ond yn 19 oed, hi yw athletwr mwyaf llwyddiannus Prydain erioed yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf.
Person ifanc
Bethan Owen - Agorodd y disgybl chweched dosbarth glwb karate di-elw i ofalwyr ifanc, wedi i hithau helpu gofalu am ei Mam sy'n dioddef o epilepsi;
Hannah Adams - Ymgyrchydd gwrth-fwlio 17 oed o Gaerdydd sy'n defnyddio ei phrofiad ei hun o gael ei bwlio i helpu eraill;
Lowri Hawkins - Wedi bod yn anhygoel o ddewr yn siarad yn gyhoeddus am ddioddef cam-fanteisio rhywiol pan yn blentyn.