Annog cyrff cyhoeddus i wario'u harian yn lleol
- Cyhoeddwyd
Mae ysbytai, ysgolion, cynghorau a chyrff cyhoeddus eraill yn cael eu hannog i ddatblygu'r ffyrdd gorau i wario mwy yn eu cymunedau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa o £1.5m ar gyfer y syniadau mwyaf arloesol.
Y bwriad yw datblygu mwy o swyddi a busnesau yn lleol.
Mae'r cyhoeddiad yn cynrychioli newid ffocws o'r pwyslais a fu ar ddefnyddio grantiau i ddenu cwmnïau tramor i fuddsoddi yng Nghymru.
'Creu awyrgylch'
Dywedodd Lee Waters, dirprwy weinidog economi a thrafnidiaeth ac Aelod Cynulliad Llanelli: "Ry'n ni'n dal i wario arian ar lefydd fel Llanelli mewn ysgolion, yn yr ysbyty, ond ni'n gorfod meddwl sut ydyn ni'n gallu gwario'r arian mewn ffordd sy'n gwneud i'r cymunedau hyn deimlo'n well.
"A dyna beth yw'r agenda hwn... i greu awyrgylch mewn llefydd fel Llanelli fod eu neges nhw o'r refferendwm Brexit wedi cael ei glywed."
Mae Mr Waters wedi bod yn edrych ar enghraifft Preston yng ngoledd Lloegr, sydd yn ei dro wedi bod yn dilyn patrwm Cleveland Ohio ynglŷn â sut i wario arian cyhoeddus.
Gwersi o Preston?
Mae Preston yn ddinas o tua'r un maint ag Abertawe. Roedd yn arfer bod yn un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y DU, ond mae wedi mwynhau mwy o lewyrch yn ddiweddar.
Cafodd Preston ei enwi gan yr ymgynghorwyr busnes PWC fel y ddinas ddatblygodd orau ledled y DU rhwng 2015-17.
Roedd hyn yn rhanol oherwydd bod yna 14,000 fwy o swyddi wedi eu creu yn y ddinas - gyda sgiliau, trafnidiaeth a chydbwysedd bywyd gwaith yn sgorio'n uchel ymhlith y rhai gafodd eu holi.
Dywedodd arweinydd cyngor Preston, Matthew Brown fod 63c ym mhob punt yn aros yn yr economi leol - gwerth £75miliwn yn 2017 - ond pan fydd contractau'n mynd i gwmnïau allanol, mae'r ffigwr hynny'n gostwng i 40c yn y bunt.
Mae adeiladwyr lleol a chynhyrchwyr bwyd wedi elwa gyda'r cyfoeth yn ymledu drwy'r gymuned, a honnir nad yw'n ddrutach i ddefnyddio cyflenwyr lleol.
Er i gyflogau yn Preston wella maen nhw dal i fod tua 15% yn is na chyfartaledd y DU.
Barn y Cymry
Mae aelodau Clwb Cymry Preston wedi gweld gwahaniaeth.
Meddai cadeirydd y clwb, Anne Spoone: "Dwi'n gweld Preston fell lle mwy byrlymog, mae'n hawdd iawn i gyrraedd Preston, mae'r cludiant cyhoeddus yn dda iawn"
Yn ôl Sulwen Turner mae pethau wedi dechrau gwella. "Mae 'di bod yn lle hyfryd, ac wedyn wedi mynd i lawr.. ac wedi dod 'nôl fyny eto yn y blynyddoedd diwethaf," meddai.
A allai hyn weithio yn Nhreforys?
Mae Abertawe yn debyg o ran maint i Preston ond yn astudiaeth PWC, ochr yn ochr â Sunderland, cafodd ei sgorio'n waethaf yn y "mynegai twf da".
O ran y rhai gafodd eu holi roedd yna berfformiad gwael o ran sgôr ar gyfer incwm, iechyd, busnes newydd a'r amgylchedd yn arbennig.
Ond yn ardal Treforys y ddinas - gyda phoblogaeth o 16,500 - mae yna newidiadau ar y gweill i weld os oes modd gwario arian cyhoeddus yn fwy lleol.
Mae'r DVLA a'r ysbyty lleol yn gyflogwyr mawr ond a oes modd annog hwy a'u staff gael i ddefnyddio busnesau lleol yn fwy?
Mae Cymdeithas Tai Coastal eisoes yn defnyddio adeiladwyr a chyflenwyr lleol.
"Rydym yn gwario tua 80 neu 90% yn lleol. Efallai y byddai'n cymryd tipyn o waith ar y dechrau ond yn y pendraw fe welwch fod yna gyflenwyr lleol sy'n deall eich anghenion yn well," meddai'r prif weithredwr Debbie Green.
"Rydym hefyd yn ei chael hi'n well i adeiladu sylfaen sgiliau gyda chyflogwyr lleol - dy'n nhw ddim yn mynd i symud, a 'da ni ddim yn mynd i symud chwaith."
Mae polisi Llywodraeth Cymru eisoes yn ceisio annog sefydliadau i ddefnyddio gweithwyr a chyflenwyr lleol gymaint â phosibl ond y bwriad ydi annog cyrff cyhoeddus i weithio gydag eraill i weld pa gyfleodd sydd yna i gynyddu faint sy'n cael ei wario'n lleol.
Gyda chynni cyllidol dal i wasgu ar gyllidebau'r sector cyhoeddus mae Llywodraeth Cymru am sicrhau y gall yr arian sy'n cael ei wario gael mwy o effaith.