Cymeradwyo distyllfa a chanolfan ymwelwyr Penderyn

  • Cyhoeddwyd
Gwaith Copr Hafod MorfaFfynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Bydd adeilad adfeiliedig yn hen safle Gwaith Copr Hafod Morfa yn cael ei adnewyddu

Mae cynlluniau i ehangu cwmni wisgi gyda distyllfa a chanolfan ymwelwyr newydd wedi cael eu cymeradwyo.

Bydd cwmni Penderyn yn ailddatblygu adeilad adfeiliedig yn hen safle Gwaith Copr Hafod Morfa yn Abertawe.

Mae'r busnes o Aberdâr yn gobeithio dechrau'r gwaith adeiladu ar ddiwedd y flwyddyn, gyda'r nod o agor y safle newydd erbyn 2022.

Fe wnaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri gyfrannu £3.75m tuag at y prosiect.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o sut y bydd yr adeilad gorffenedig yn edrych