National Grid yn dod â chynllun peilonau Môn i ben

  • Cyhoeddwyd
PeilonauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cwmni National Grid wedi cadarnhau fod y cais ar gyfer Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru wedi cael ei dynnu 'nol.

Nid oedd y cyhoeddiad yn syndod yn dilyn y newyddion ym mis Ionawr fod datblygwyr atomfa Wylfa Newydd ar Ynys Môn wedi atal yr holl waith ar y cynllun.

Mewn datganiad, dywedodd y National Grid bod cwmni Pŵer Niwclear Horizon wedi dweud nad oes angen y cysylltiad arnynt bellach, ac felly wedi dod â'r cytundeb i ben.

O ganlyniad mae'r cais am gysylltiad trydan newydd ar hyd Ynys Môn a gogledd Gwynedd wedi cael ei dynnu 'nol.

Ond ychwanegodd y datganiad y bydden nhw'n "cydweithio'n agos" gyda Horizon neu unrhyw ddatblygwr arall er mwyn sicrhau bod yno "gysylltiad trydan cryf a diogel" yn yr ardal.

Mae'r cynlluniau wedi wynebu gwrthwynebiad chwyrn gan rai o drigolion yr ynys, gan gynnwys y cyngor sir oedd o blaid gosod system danddaearol.

Bydd y Grid Cenedlaethol nawr yn ysgrifennu at berchnogion tir fydd yn cael eu heffeithio er mwyn esbonio be mae'r penderfyniad yn ei olygu iddyn nhw.