Canolfan dwristiaeth Caernarfon i ailagor?

  • Cyhoeddwyd
Oriel PendeitshFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Oriel Pendeitsh ei ailagor am gyfnod yn 2017 ond mae wedi bod ar gau byth ers hynny

Gall canolfan dwristiaeth yng Nghaernarfon a gaeodd ddwy flynedd yn ôl ailagor os bydd cynghorau'n dod i gytundeb.

Bu'n rhaid i'r ganolfan, a oedd yn rhan o Oriel Pendeitsh yn y dref, gau ym mis Tachwedd 2016 wrth i Gyngor Gwynedd wneud toriadau i'w cyllideb.

Ond fe all y ganolfan agor ei drysau eto wedi i'r cyngor sir gytuno i osod yr adnodd ar brydles i'r cyngor tref.

Y bwriad ydy mai prosiect HWB Caernarfon fydd yn rhedeg y ganolfan o ddydd i ddydd.

Mae ailagor y ganolfan yn "rhan bwysig" o fwriad HWB i adfywio canol y dref, yn ôl adroddiad gan y cyngor sir.