Cadarnhad am leoliad gêm Croatia v Cymru wythnos nesaf
- Cyhoeddwyd

Ben Davies yn mynd heibio i Ivan Rakitic y tro diwethaf i Gymru chwarae yn Osijek yn 2012
Mae UEFA wedi dweud wrth Cymru Fyw y byddan nhw'n gwneud penderfyniad wythnos nesaf ar p'run ai i gynnal y gêm rhwng Croatia a Chymru yn Osijek.
Mae yna ddryswch wedi bod ynglŷn â'r gêm wedi i gymdeithas bêl-droed Croatia (HNS) gyhoeddi mai yn Osijek y bydd y gêm yn cael ei chynnal ar 8 Mehefin.
Gyda nifer o gefnogwyr Cymru eisoes wedi gwneud trefniadau teithio, mae rhwystredigaeth am yr oedi i gadarnhau lleoliad y gêm.
Dywedodd llefarydd ar ran UEFA: "Fe allwn ni gadarnhau y byddwn yn ymweld ag Osijek wythnos nesaf, ac mae disgwyl penderfyniad erbyn diwedd yr wythnos."
Dryswch y cyhoeddi
Bydd Cymru yn chwarae yn yr un grŵp â Chroatia, Slofacia, Hwngari ac Azerbaijan yn rownd ragbrofol E ar gyfer Euro 2020.
Fe gyhoeddodd HNS ar 5 Chwefror y byddai'r gêm rhwng Croatia a Chymru yn cael ei chynnal yn Osijek.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ond ar 22 Chwefror, doedd hynny heb ei gadarnhau ar wefan swyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
