Croatia 2-0 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ashley Williams yn herio Mario Mandzukic, sgoriwr gôl gyntaf CroatiaFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Ashley Williams yn herio Mario Mandzukic, sgoriwr gôl gyntaf Croatia

Mae Cymru wedi colli am y trydydd tro yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014.

Roedd Cymru wedi gwneud yn dda i wrthsefyll pwysau'r tîm cartref am hanner awr.

Ond yna llwyddodd Mario Mandzukic i rwydo'n rhwydd wedi camgymeriad amddiffynnol gan Ashley Williams wrth roi pas blêr yn ôl i'r gôl-geidwad Lewis Price a'i methodd.

Parhau wnaeth y pwysau ar gôl Cymru yn yr ail hanner.

Ar ôl 58 munud sgoriodd Eduardo Da Silva, roedd o wrth law i roi'r bêl yn y rhwyd yn dilyn cic gornel.

Ceisiodd Cymru daro nôl ond cafodd peniad Andy King ei arbed gan y ceidwad Pletikosa.

Tua diwedd y gêm llwyddodd Gareth Bale i guro sawl dyn cyn ergydio.

Er i Pletikosa fethu â dal y bêl, methu hefyd wnaeth ergyd Sam Vokes.

Roedd Cymru wedi cyrraedd Osijek ar gyfer y gêm yn obeithiol wedi eu buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd nos Wener.

Cyflwr y cae

Ond roedd Croatia yn gryfach tîm a hwythau hefyd wedi ennill 2-1 oddi cartref yn erbyn Macedonia nos Wener.

Dydi Croatia ddim wedi colli gartref dim ond unwaith - yn erbyn Lloegr ym mis Medi 2008 - mewn 46 o gemau cymhwyso ar gyfer pencampwriaethau.

Ar ôl y gêm dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman: "Roedd Croatia yn haeddu'r tri phwynt.

"Mae Croatia yn dîm da iawn ond roedd yna elfennau positif i ni."

Ychwanegodd capten Cymru, Ashley Williams, nad oedd yr amgylchiadau yn wych.

"Roedd cyflwr y cae yn warthus," meddai.

"Mae'n wir efallai na ddylwn i fod wedi pasio'r bêl gan wybod beth oedd cyflwr y cae."

Fe wnaeth ei reolwr ei amddiffyn gan ddweud, "sawl gwaith fyddwch chi'n pasio'r bêl yn ôl i'r ceidwad ac mae'n iawn?"

"Fe aeth yn sownd yn y mwd, ac fe aeth mewn wedyn."

Fe wnaeth Coleman ddatgelu bod tîm rheoli Cymru wedi cael pryderon cyn y gêm am gyflwr y cae yn Stadiwm Gradski.

"Roedd o'n galed iawn un pen pan wnaethon ni ei archwilio.

"Roedd yr un peth i'r ddau dîm, peidiwch a fy nghael yn anghywir, ond roeddem yn lwcus na wnaeth hi fwrw glaw.

"Oherwydd cyflwr y cae, roeddem yn pryderu y gallai'r gêm fod yn y fantol.

"Roedd yr hanner lle'r oedden ni'n amddiffyn yn yr hanner cyntaf, lle wnaethon ni gamgymeriad, yn anodd iawn."

Cymru: Price, Gunter, Davies, Williams, Vaughan, Blake, Allen, Ledley(Robson-Kanu - 82') King (Vokes - 72' ), Bale, Morison (Church - 61' )

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol