Targed miliwn o siaradwyr Maori sylfaenol erbyn 2040

  • Cyhoeddwyd
Angharad Williams
Disgrifiad o’r llun,

Bu Angharad Williams o Fryncir yn byw yn Seland Newydd am 13 mlynedd

Mae Llywodraeth Seland Newydd wedi gosod targed tebyg i Lywodraeth Gymru, gyda chynllun uchelgeisiol i gynyddu'r nifer o siaradwyr Maori i filiwn erbyn 2040.

Yn ôl cyfrifiad a gafodd ei gynnal yn 2013, dim ond 125,000 o bobl sy'n medru'r iaith ymysg poblogaeth o 5m.

Mae'r Prif Weinidog Jacinda Ardern yn awyddus i weld mwy o bobl yn dysgu siarad Maori sylfaenol ymhen 20 mlynedd.

Y bwriad yw cyflwyno gweithdai rhanbarthol a gwersi digidol ar gyfryngau amrywiol.

Yn ôl un siaradwraig Maori, mae nifer yn swil i drio dysgu'r iaith, gyda deialectau gwahanol yn profi'n her.

'Dio'm r'un peth'

Er bod y targed yn debyg, mae sefyllfa'r iaith yn Seland Newydd yn gwbl wahanol, yn ôl Angharad Williams, fu'n byw yn y wlad am 13 mlynedd.

"Dio ddim r'un peth â Chymru lle fedri gerdded lawr stryd fawr, yn Pwllheli deud, a ma' 'na bobol yn siarad Cymraeg rhwng ei gilydd," meddai wrth raglen Post Cyntaf fore Gwener.

Er ei bod hi bellach wedi symud yn ôl i Gymru, roedd ei mam, sy'n Faori, yn awyddus iddi dreulio rhan o'i phlentyndod yn Seland Newydd.

Yn ôl Ms Williams, mewn ysgolion ac yn eu cartrefi mae'r rhan fwyaf o bobl yn siarad yr iaith, a Saesneg yw'r iaith sy'n cael ei chlywed fwyaf.

"Ma' nhw'n trio cychwyn [dysgu plant] yn yr ysgolion bach rŵan," meddai.

"Does 'na ddim radio dwi'm yn meddwl, ond mae 'na un sianel fatha S4C ni, a jyst rhaglenni'n dysgu geiriau bach a bob wsos mae o'n mynd yn anoddach."

Ychwanegodd mai'r bwriad wrth gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr oedd mynd ati i gyflwyno'r iaith mewn ysgolion a chynnig mwy o gyrsiau am ddim i ddechreuwyr.