Carcharu gamblwr am ddwyn o gleifion mewn cartref gofal

  • Cyhoeddwyd
Wayne Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wayne Lewis bellach wedi talu'r arian yn ôl yn llawn

Mae gamblwr fu'n dwyn o gleifion mewn cartref gofal dementia wedi ei garcharu am wyth mis.

Clywodd llys bod Wayne Lewis, 51, wedi bod yn dwyn arian o gynilion cleifion yng nghartref Old Bank House yn Nowlais, Merthyr Tudful.

Dywedodd Nick Strobl ar ran yr erlyniad: "Roedd trigolion ag anawsterau iechyd meddwl a dementia yn cadw eu harian mewn loceri.

"Cymerodd Mr Lewis yr arian i dalu ei ddyledion gamblo gyda'r bwriad o'i dalu'n ôl.

"Ond daeth y staff yn amheus, gwnaethon nhw archwiliad a chyfaddefodd Mr Lewis yr hyn oedd yn digwydd pan ofynnwyd iddo."

Fe gyfaddefodd i bum achos o ddwyn.

'Cywilydd mawr'

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful nad oedd preswylwyr y cartref yn fodlon rhoi datganiadau i'r llys am eu bod yn rhy drist.

Mae Lewis, o Gefn Coed ym Merthyr, wedi talu'r arian yn ôl yn llawn.

"Mae hyn yn rhywbeth mae Mr Lewis â chywilydd mawr ohono," meddai Alex Greenwood ar ran yr amddiffyn.

Dywedodd y barnwr Richard Twomlow fod carcharu Lewis yn "briodol", ond ei fod wedi cymryd camau i ddelio gyda'i "ddibyniaeth gamblo".