Cory Hill i fethu gweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd

Cory Hill sgoriodd y cais cyntaf wrth i Gymru frwydro 'nôl i drechu Lloegr ddydd Sadwrn
Mae disgwyl i chwaraewr ail reng Cymru a'r Dreigiau, Cory Hill, fethu gweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf.
Roedd rhaid i Hill adael y cae yn ystod buddugoliaeth Cymru o 21-13 yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.
Y gred yw iddo anafu ei bigwrn wrth sgorio cais hollbwysig gyda deng munud yn weddill.
Bydd rhaid i brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wneud heb y clo 27 oed ar gyfer y gemau sydd yn weddill yn erbyn yr Alban ac Iwerddon.
Y disgwyl yw y bydd Adam Beard neu Jake Ball yn cymryd ei le yn y tîm.
Dywedodd Neil Jenkins, un o hyfforddwyr Cymru, fod colli Hill yn bendant yn golled ond ei fod yn gyfle i aelodau eraill o'r garfan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2019