Achub dyn fu'n sownd mewn tân mynydd yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi achub dyn oedd yn sownd mewn tân ar fynydd yn Sir Ddinbych.
Mae diffoddwyr tân o Johnstown, Bala a Wrecsam wedi bod yn ceisio diffodd y fflamau yng Nglyndyfrdwy.
Roedd criw ychwanegol o Langollen hefyd yn aros gyda'r dyn nes i hofrennydd gyrraedd i'w gludo oddi ar y mynydd.
Ond cafodd y dyn ei achub a'i gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans arferol, ac er i'r ambiwlans awyr fynd yno doedd dim o'i angen.
Wrth i'r criwiau ddechrau'r gwaith o geisio diffodd y tân am 16:00, fe welwyd y dyn yn sownd mewn tractor ar y mynydd.
Yn y cyfamser mae Gwasanaeth Tân y De wedi bod yn mynychu tân gwair mawr yng Nghwm-bach ger Aberdâr.
Mae pedair injan dân wedi bod yn brwydro yn erbyn y fflamau yno, sydd ger safle'r ysgol gynradd leol.
Ychwanegodd Gwasanaeth Tân y Gogledd eu bod hefyd yn delio â thanau gwair yn Amlwch ar Ynys Môn, Llechwedd yng Ngwynedd a Llanefydd yng Nghonwy.