Amheuaeth am Brooks a Chester cyn gêm Slofacia

  • Cyhoeddwyd
David Brooks a James ChesterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid oes dyddiad wedi'i bennu eto o ran pryd fydd David Brooks a James Chester yn gallu dychwelyd o'u hanafiadau

Mae amheuaeth ynglŷn ag a fydd David Brooks a James Chester ar gael ar gyfer gêm ragbrofol gyntaf Euro 2020 Cymru yn erbyn Slofacia ar 24 Mawrth.

Mae asgellwr Bournemouth, Brooks wedi anafu ei ffêr, tra bod amddiffynwr Aston Villa, Chester wedi dioddef anaf i'w ben-glin.

Dyw Brooks heb chwarae ers i Bournemouth drechu Chelsea 4-0 ym mis Ionawr.

Dywedodd ei reolwr, Eddie Howe, fod y Cymro "dal ychydig wythnosau i ffwrdd" cyn dychwelyd.

Ers iddo ymuno â Bournemouth o Sheffield United yn yr haf, mae Brooks wedi sgorio chwe gôl mewn 22 ymddangosiad yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Does dim dyddiad wedi'i bennu i Chester ddechrau chwarae eto, ers iddo adael y cae mewn gêm yn erbyn Ipswich fis diwethaf.

Mae capten Aston Villa, sy'n 30 oed, wedi bod yn derbyn brechiadau i leihau'r chwyddo yn ei goes ers yr anaf.