Dewi Sant - y dyn a'r chwedl
- Cyhoeddwyd
Dewi Sant yw nawddsant Cymru ac fe gofiwn amdano ar Fawrth 1 bob blwyddyn. Ond pwy yn union oedd o a faint ydyn ni'n ei wybod amdano go iawn?
Mae llawer o'r wybodaeth sydd gennym am Ddewi yn seiliedig ar Fuchedd Dewi gafodd ei llunio gan Rhygyfarch ap Sulien bron i 500 mlynedd ar ôl marw Dewi. Roedd Rhygyfarch wedi ei ddylanwadu gan fucheddau blaenorol am fywydau seintiau eraill ac yn dilyn yr un patrwm. Un o amcanion Rhygyfarch felly, yn ôl llyfr diweddar gan Gerald Morgan, Ar Drywydd Dewi Sant, oedd dangos yr elfennau a oedd yn gyffredin ym mywyd Dewi, a bywyd Iesu.
"Wrth fynd dros y gwaith sylweddolais nad bywgraffiad mohono" meddai Gerald.
"Roedd Rhygyfarch yn ysgrifennu yn nhraddodiad y fuchedd, oedd eisoes yn gyfarwydd ar draws Ewrop. Sail patrwm bucheddau'r seintiau oedd yr Efengylau, a gallwn weld hynny'n glir yn nhestun Rhygyfarch... mae gwyrthiau yn frith trwy'r Efengylau a'r Fuchedd fel ei gilydd, a'r ddau'n diweddu gydag esgyniad i'r nefoedd."
Mynach
Un peth sy'n sicr yw bod Dewi yn fynach a oedd yn byw yng Nghymru yn ystod y chweched ganrif. Roedd yn byw fel rhan o gymuned fynachaidd, a oedd yn adnabyddus am fyw bywyd syml a gweithio'n galed. Yn ôl y sôn roedd Dewi a'i gyd-fynachod yn tynnu'r aradr eu hunain wrth aredig. Mae 'na le i gredu mai Tywysog Ceredigion oedd ei dad, Sant, a'i fam, Non, yn ferch i bendefig lleol.
Cafodd ei eni rhywbryd rhwng 520 a 540 OC, o bosib, yng Ngapel Non, ger Tyddewi er bod Gerald Morgan yn cyflwyno dadl bod Dewi yn Gardi.
"Bydd yr awgrym mai Cardi oedd Dewi Sant yn peri tramgwydd i'r lliaws o Gymry sy'n credu mai yn Nyfed y cafodd ei eni ond yn sicr mae cysylltiadau cryf rhwng Dewi a Cheredigion"
Derbyniodd ei addysg mewn mynachdy yn Hen Fynyw ger Aberaeron gan fynach dall o'r enw Pawliniws. Arhosodd yn y mynachdy am nifer o flynyddoedd cyn teithio trwy Gymru, y cyfandir, a hyd yn oed i Jerwslaem yn ôl rhai ffynonellau, yn pregethu'r Efengyl.
Yn sicr tyfodd Dewi yn un o aelodau mwyaf dylanwadol Eglwys Geltaidd y cyfnod, gan ledu neges Cristnogaeth ymysg llwythau paganaidd Prydain a sefydlu mynachlog yng Nglyn Rhosyn yn Sir Benfro - yn ddiweddarach daeth y lle hwn yn ddinas gadeiriol wedi ei henwi ar ôl Dewi - Tyddewi.
Gwyrthiau
Mae'n debyg mai gwyrth gyntaf Dewi oedd adfer golwg ei athro, Pawlinws. Pan ddaeth ei olwg yn ôl dywedir mai'r peth cyntaf a welodd oedd cennin pedr.
Mae un arall o wyrthiau Dewi yn ei gysylltu â Llanddewi Brefi. Roedd tyrfa fawr wedi ymgasglu i'w glywed yn siarad ond gan fod cymaint yno, doedd llawer ohonyn nhw ddim yn ei glywed yn iawn. Gosododd Dewi hances ar y llawr cyn sefyll arni, ac yn sydyn, cododd bryn bach o dan ei draed gan ei godi fel y gallai pawb ei weld. Mae rhai yn dweud hefyd fod colomen wen wedi glanio ar ei ysgwydd, yn arwydd gan Dduw o'i sancteiddrwydd.
Ond fel y dywed yr hanesydd John Davies - "prin y gellid dychmygu gwyrth fwy di-alw-amdani, o gofio tirwedd Ceredigion". Mae Gerald Morgan yntau yn awgrymu i'r chwedl ddod i fod er mwyn esbonio siap hynod y bryn bychan y mae Eglwys Llanddewi Brefi wedi ei hadeiladu arni yn hytrach na bod y bryn wedi ei greu trwy wyrth.
"Byddwch lawen ... a gwnewch y pethau bychain..."
Roedd Dewi mae'n debyg mewn gwth o oedran pan fu farw ar 1 Mawrth 589 - yn 147 oed yn ôl Rhygyfarch - ond yn ei chwedegau neu ei saithdegau os dderbyniwn iddo gael ei eni rhwng 520 a 540. Cafodd ei bregeth olaf ei chofnodi yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi o'r 14eg ganrif, sydd yn cynnwys ei ddyfyniad enwocaf:
"Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i."
Datblygodd y chwedlau am Ddewi yn y blynyddoedd a'r canrifoedd a ddilynodd, gyda llawer iawn o adeiladau eglwysig wedi eu cysegru iddo. Ymhen amser cafodd ei gydnabod fel nawddsant i'r Cymry gyda Mawrth y cyntaf yn cael ei nodi fel Dydd Gŵyl Dewi mewn llawysgrifau Gwyddelig o'r 9fed ganrif. Yn ddiddorol, ef yw'r unig nawddsant o wledydd Prydain a gafodd ei eni yn y wlad mae'n gysylltiedig â hi.