Gwers Gymraeg ar raglen Radio 2 Jeremy Vine

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Vine

Mae'r cyflwynydd Radio 2, Jeremy Vine wedi cael gwers Gymraeg ar ei raglen ddyddiol, wythnosau ar ôl cael ei feirniadu am neges y cyhoeddodd ar ei gyfrif Twitter ynglŷn â'r iaith.

Bu hefyd yn clywed am resymau ei diwtor, Aran Jones dros ddysgu'r iaith ac am sefyllfa'r Gymraeg yn gyffredinol.

Roedd Mr Jones - un o sylfaenwyr y wefan Say Something in Welsh - ymhlith y rhai a ymatebodd i'r neges Twitter y mae'r cyflwynydd ei hun wedi ei ddisgrifio fel "cam gwag" oedd yn camgyfleu'r hyn roedd yn ceisio ei ddweud.

Fe gyflwynodd y sgwrs ar ei raglen ddydd Gwener gyda'r geiriau: "Croeso i chi heddiw."

Wrth grynhoi'r pwyntiau trafod posib fe ofynnodd "a oes gan bawb ddyletswydd o ran diogelwch a thwf yr iaith Gymraeg, hyd yn oed os, fel fi, ddim yn ei siarad Cymraeg".

Dywedodd wedyn ei fod "yn mwynhau clywed synnau gwahanol yn dod o fy ngheg" wrth gael ei ddysgu i ddweud y frawddeg: "'Dwi isio dysgu siarad Cymraeg heddiw."

Ffynhonnell y llun, Twitter Aran Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Aran Jones y llun yma ar Twitter cyn ymuno â Jeremy Vine yn y stiwdio

'Modd magu agweddau positif'

Dywedodd Mr Jones wrth Taro'r Post bod y wers wedi mynd yn dda.

"Oedd o'n chwim ofnadwy," meddai am ymdrechion Mr Vine. "Mi na'th o'n wych."

Mae'n gobeithio bod yn wers a'r sgwrs wedi "rhoi cyfle i bobol feddwl mae hyn yn gallu bod yn beth positif - does dim rhaid i ni fod yn ffraeo amdano".

"'Dwi hefyd yn credu bod angen i bobol sefyll i fyny a deud eu deud pan ma petha' amharchus yn ca'l eu dweud," ychwanegodd.

'Nonsens ystrydebol'

Fe gododd ffrae fis Rhagfyr y llynedd wedi i rifyn o uchafbwyntiau'r rhaglen yn ystod 2018 gynnwys cyfraniad gan ddyn o Bontypridd oedd wedi dweud nad oedd eisiau siarad Cymraeg am ei bod yn "iaith erchyll".

Roedd gwrandawyr yn flin hefyd gyda haeriad y cyfrannwr bod pobl ond yn troi o'r Saesneg i'r Gymraeg mewn tafarndai yng ngorllewin a gogledd Cymru i atal pobl ddi-Gymraeg rhag eu deall.

Mewn ymateb i feirniadaeth bod y rhaglen yn ailgylchu hen ystrydebau sy'n "nonsens", fe gyhoeddodd Mr Vine ar Twitter: "Is France in the UK?" - neges a gafodd ei dileu yn fuan wedi i bobl alw arno i ymddiheuro neu rhoi eglurhad am ei hystyr.

Ysgrifennodd, eto ar Twitter, bod y neges wedi ei chamddehongli, a bod dim bwriad i dramgwyddo unrhyw un.

Fe atebodd Mr Jones y neges gan bwysleisio rhinweddau a phwysigrwydd yr iaith, ac fe arweiniodd y sgwrs ganlynol rhwng y ddau at addewid gan y cyflwynydd i wneud ymdrech i ddysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Twitter

Fe ddatgelodd Aran Jones ar ei gyfrif Twitter nos Iau bod y cyflwynydd wedi talu i 10 o bobl gwblhau cwrs Say Something In Welsh sy'n helpu pobl i fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl o fewn chwech mis.

£240 yw cost arferol y cwrs hwnnw.

Dywedodd Mr Jones bod angen cymeradwyo "rhywun sy'n cymryd camau i'r cyfeiriad cywir" yn hytrach na pharhau i'w feirniadu am y sylwadau gwreiddiol.

"Pe byddai cyfryngis Llundain yn gyffredinol hanner mor barod i drafod a gwrando [â Jeremy Vine], fydde Lloegr gyfan eisoes yn gwybod / deall filiwn gwaith mwy am Gymru nag y maen nhw ar hyn o bryd."