Profiad merched a gafodd eu twyllo gan heddlu cudd
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wnaeth gwympo mewn cariad â dyn oedd yn ysbïo ar ei gweithgareddau wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod yn ddioddefwraig o "gynllwyn trais".
Wrth siarad â BBC Wales Investigates mae Rosa, nid ei henw iawn, a menyw arall wedi bod yn sôn am y modd y cawsont eu bradychu.
Ar hyn o bryd mae ymchwiliad cyhoeddus i blismona cudd yn cael ei gynnal ac mae nifer o ferched wedi derbyn ymddiheuriadau ac iawndal.
Mae'r heddlu wedi dweud bod swyddogion a gafodd berthynas rhywiol tymor-hir gyda'u targedau wedi "camddefnyddio eu pwerau".
Stori Rosa
Dywedodd Rosa - wnaeth ddarganfod bod ei phartner tymor-hir yn ysbïwr: "O roi'r cyfan at ei gilydd, mae gennych dîm o swyddogion sy'n cynllwynio i dreisio.
"Roeddent yn gwybod nad oedd caniatâd i hynny."
Yn 2000 fe dreuliodd Rosa dri mis yn Ne Affrica yn edrych am ei chariad Jim Sutton - ond nid oedd y dyn yn bodoli.
Fe wnaeth Rosa gyfarfod Jim mewn tafarn yn Llundain pan oedd hi'n rhan o'r grŵp Reclaim the Streets.
Roedd y ddau gyda'i gilydd am 10 mis ond doedd Jim Sutton ddim yn bodoli - roedd ei chariad yn blismon cudd.
Roedd y ddau wedi sôn am setlo yng Nghymru a chael plant ond yn sydyn fe ddywedodd Jim ei fod am deithio ar ben ei hun er mwyn "clirio ei ben".
Ar y dechrau roedd Jim yn cysylltu â Rosa yn gyson ond wrth i'r negeseuon fynd yn brinnach ac i bryder Rosa gynyddu, aeth i chwilio amdano i Dde Affrica.
Ond wedi misoedd o chwilio ni ddaeth Rosa o hyd i Jim tan i'w hymchwiliadau ei harwain i uned heddlu cudd yn ne Llundain. Ddeuddydd yn ddiweddarach fe ailymddangosodd.
Mae Rosa yn credu bod ei hymchwiliad wedi codi chwilfrydedd yr heddlu a bod Sutton wedi cael ei anfon ati i ofyn faint oedd hi'n ei wybod.
Cyfaddefodd Sutton mai ei enw oedd Jim Boyling - dywedodd hefyd fod ganddo bellach empathi at y rhai yr oedd yn cadw golwg arnynt.
Cyn hir roedd Rosa a Jim eto mewn perthynas - fe briododd y ddau ac fe feichiogodd Rosa ond doedd 'na ddim diweddglo hapus i'r stori.
Dywedodd Rosa bod Jim yn ei rheoli - cyhuddiad y mae'n ei wadu - a maes o law bu'n rhaid iddi fynd i loches i ferched yng Nghymru ac fe ysgarodd y ddau.
'Cynllunio fy mywyd gydag ef'
Roedd Mark Stone a'i bartner ers chwe mlynedd, Lisa, ar wyliau yn Yr Eidal yn 2010 a thra'n chwilio am ei sbectol haul yn y car daeth o hyd i basport.
Roedd y pasport yn nodi mai Mark Kennedy oedd enw iawn ei phartner a bod ganddo blant.
Plismon cudd oedd Mr Kennedy, ac roedd wedi ei dalu i ysbïo ar ei gweithrediadau amgylcheddol.
Fel Rosa, dywed Lisa bod y modd y bradychodd Mark Kennedy a'i gyflogwyr hi yn teimlo fel trais.
"Yr hyn sydd wedi fy ngwneud i deimlo'n waeth yw nad un person oedd yn gwneud hyn - nid rhywbeth rhwng Mark a fi oedd e - ond yr heddlu cyfan."
'Ychydig yn amheus'
Fe wnaeth Lisa, a fu'n gweithredu mewn protestiadau amgylcheddol, gyfarfod Mark yn 2004 ac fe ddywedodd wrthi ei fod yn ddringwr proffesiynol.
Ychwanegodd Lisa: "Roedd 'na adegau pan roeddwn ychydig yn amheus - er enghraifft, doeddwn byth yn cael cwrdd â'i rieni ond roeddwn mewn cariad ac roeddwn yn credu bod dyfodol i ni.
"Roedd hwn yn rhywun yr oeddwn yn cynllunio i rannu fy mywyd ag e."
Yn 2009 fe ddiflannodd Mark yn sydyn am dri mis, ond daeth yn ôl a thra ar wyliau daeth Lisa o hyd i'w basport ffug.
Yn dilyn hynny aeth Lisa a ffrind iddi i ymchwilio pwy oedd Mark a darganfod ei fod yn briod a bod ganddo ddau o blant yn Iwerddon.
Wrth iddi ei gwestiynu yn hwyrach fe gyfaddefodd ei fod yn blismon cudd.
"Roedd e a fi yn ein dagrau, roedd hi'n noson anodd ac mae fy atgofion o'r digwyddiad yn hynod anodd."
Y cadarnhad fod Mark Kennedy yn ysbïwr oedd yr ergyd gyntaf i rwydwaith heddlu cudd Cymru a Lloegr.
Yn dilyn hynny cafodd hunaniaeth mwy o blismyn cudd eu datgelu ac wedi iddi ddod i'r amlwg fod plismyn wedi bod yn ysbïo ar deulu Stephen Lawrence, gorchmynnwyd ymchwiliad cyhoeddus.
'Camddefnyddio eu safle'
Dywedodd Heddlu Llundain wrth BBC Wales Investigates: "Ry'n wedi nodi'n glir yn y gorffennol yr hyn a gredwn am berthynas rhywiol hirdymor plismyn cudd â merched. Roedd perthynas o'r fath yn anghywir a ddylai hi ddim fod wedi digwydd.
"Mae plismona cudd yn gyfreithlon ac yn dacteg bwysig sy'n gwaredu troseddwyr peryglus oddi ar ein strydoedd ac yn gwarchod ein cymunedau - ond mae'r achosion yma yn dangos bod rhai swyddogion wedi camddefnyddio eu safleoedd."
Gwrthododd Mark Kennedy a Jim Boyling gael eu cyfweld gan BBC Wales Investigates. Mewn datganiad yn Ebrill 2018, dywedodd Mr Boyling bod ei berthynas gyda Rosa yn un ddidwyll ac nad oedd hi wedi digwydd oherwydd bod Rosa o ddiddordeb i'r heddlu.
Wrth siarad ar raglen Victoria Derbyshire yn 2012, mynnodd Mark Kennedy fod ei berthynas â Lisa yn un oedd wedi'i seilio ar serch.
Yn 2018 cyfaddefodd yr heddlu bod rheolwr Mr Kennedy yn gwybod ei fod yn cael perthynas rywiol gydag un oedd yn gweithredu.
Cafodd Jim Boyling ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol oherwydd ei berthynas gyda Rosa.
Er i Rosa a Lisa dderbyn ymddiheuriadau gan yr heddlu ac iawndal mae'r ddwy dal yn teimlo eu bod wedi cael eu bradychu.
Dywedodd Lisa: "Pan mae pobl yn cael profedigaeth, mae'n rhaid gwybod beth sydd wedi digwydd i un annwyl cyn symud ymlaen.
"Yn yr achos hwn mae'n teimlo fel profedigaeth ond dwi ddim newydd ganfod bod fy mhartner wedi marw, dwi newydd ganfod nad oedd yn bodoli yn y lle cyntaf."
Gellir gwylio BBC Wales Investigates Undercover Cops: Abuse of Duty nos Lun, Mawrth 4 am 20:30 ar BBC1 Cymru.