Wyth darpar ymgeisydd yn is-etholiad Gorllewin Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae enwau wyth darpar ymgeisydd wedi eu cyhoeddi hyd yma ar gyfer yr is-etholiad i ddewis olynydd i Paul Flynn fel Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd.
Mae'r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd, Renew, UKIP a'r Abolish the Welsh Assembly Party wedi cyhoeddi pwy fydd yn eu cynrychioli nhw yn yr is-etholiad, sy'n cael ei gynnal ar 4 Ebrill.
Bu farw Mr Flynn, AS Llafur yr etholaeth ers 1987, fis diwethaf.
Mae gofyn i bapurau enwebu darpar ymgeiswyr gael eu cyflwyno erbyn prynhawn Gwener, 8 Mawrth.

Gorllewin Casnewydd - yr ymgeiswyr hyd yma
Y Blaid Lafur - Ruth Jones
Y Blaid Geidwadol - Matthew Evans
Plaid Cymru - Jonathan T Clark
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Ryan Jones
Y Blaid Werdd - Amelia Womack
UKIP - Neil Hamilton
Abolish the Welsh Assembly Party - Richard Suchorzewski
Renew - June Davies