Pam fod marciau fel symbol yr Orsedd ar gerrig drwy'r wlad?

  • Cyhoeddwyd

Os nad ydych chi wedi gweld un o'r rhain o'r blaen rydych chi wedi bod yn agos iawn at un sawl tro, heb yn wybod!

Ym mhob pentref, tref a dinas yng Nghymru bron iawn, mae'r marc unigryw hwn i'w weld ar garreg yn rhywle gyda rhai'n haws i'w gweld na'i gilydd.

Mae'n debyg iawn i symbol Gorsedd y Beirdd, y Nod Cyfrin, sydd i'w weld ar bob Cadair a Choron Eisteddfod Genedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Adrian Dust
Disgrifiad o’r llun,

Postyn Llanwddyn

Ond does wnelo'r peth ddim byd â'r Orsedd na'r Eisteddfod 'na 'chwaith unrhyw beth Celtaidd!

Marc ydi o a ddefnyddir gan syrfewyr i wybod pa mor uchel, uwchben lefel y môr ydi rhywle, neu rhywbeth. Yr enw swyddogol ydi Meincnod Arolwg Ordnans (Ordnance Survey Benchmark).

Y broblem wrth geisio cofnodi bod rhywle hyn a hyn uwch lefel y môr yw bod lefel y môr yn newid o hyd. Felly mae'n rhaid cael un lle swyddogol a chymharu pob man arall â hwnnw.

Dociau Lerpwl yn gosod y sail

O 1844 ymlaen defnyddiwyd marc ar bolyn oedd yn nodi uchder y llanw yn Noc Fictoria, Lerpwl. Dyna, ar y pryd oedd yn cael ei ystyried fel y llinell sail swyddogol, yr Ordnance Datum Level drwy Brydain gyfan a bu'r asiantaeth mapio, yr Arolwg Ordnans, yn mesur pa mor uchel neu isel oedd lleoliadau eraill drwy Brydain.

Ond oherwydd nad oedd y dechnoleg ar gael yn y 1800au i fod yn gywir gyda'r mesuriadau, penderfynwyd yn 1921 i ailedrych ar y system o fesur.

Disgrifiad o’r llun,

Symbol yr Orsedd, y Nod Cyfrin, ar Gadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, a enillwyd gan y prifardd Gruffudd Owen. Mae'r logo'n golygu 'Yng ngwyneb haul a llygaid goleuni.'

Ym mhentref Newlyn, Cernyw rhwng 1 Mai, 1915 a 30 Ebrill 1921 cofnodwyd lefel y môr ar yr awr, bob awr i ffendio cyfartaledd lefel y môr a nodi'r canlyniad fel Ordnance Data Newlyn. Defnyddiwyd hwnnw wedyn yn lle'r hen sail swyddogol, fel man cychwyn pob mesur o uchder.

Dewiswyd Newlyn gan ei fod y lle lleiaf tebygol ym Mhrydain, yn ôl arbenigwyr y cyfnod, i dir godi neu ostwng yn naturiol (y lle lleiaf tebygol ym Mhrydain i gael ei effeithio gan blatiau tectoneg). Hefyd roedd y llanw'n gallu mynd a dod o Fôr yr Iwerydd heb gael ei effeithio gan unrhyw gorff o dir ac felly yn fwy cyson ei lefelau.

Yna aeth yr Arolwg Ordnans ati i dorri'r meincnodau a welwn heddiw ar gerrig o bob math drwy'r wlad. Torrwyd y marciau ar lefydd a fyddai'n debygol o barhau am amser hir felly maent i'w gweld yn amlach ar gorneli adeiladau fel ysgolion, capeli, eglwysi ac ar bontydd, cestyll ac yn y blaen.

Ffynhonnell y llun, Adrian Dust'
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r marc i'w weld o hyd ar bont Cydweli

Hen hanes erbyn hyn

Mae technoleg wedi symud yn ei flaen llawer ers 1921, ac offer digidol o fesur uchder wedi disodli'r hen feincnodau. Mae dros 25 mlynedd ers i'r marc olaf gael ei dorri gan yr Arolwg Ordnans.

Dros amser, er i nifer fawr o feincnodau gael eu colli drwy ddatblygu tir, dymchwel ac ail godi adeiladau ac yn y blaen, mae tua 500,000 ohonyn nhw'n dal yn bodoli.

Efallai bod un ar wal eich tŷ chi - ewch i chwilio rhag ofn!

Disgrifiad o’r llun,

Wal Eglwys Llandyfrydog, Ynys Môn