Dirgelwch yn parhau 100 mlynedd ers lladd milwyr
- Cyhoeddwyd
100 mlynedd yn ôl yng Ngogledd Cymru gwelwyd un o'r terfysgoedd gwaethaf yn hanes milwrol Prydain, ond mae rhai yn dal i ofyn hyd heddiw os wnaeth yr awdurdodau gelu'r gwir am farwolaethau'r milwyr.
Mewn mynwent wrth ochr ffordd yr A55, mae degau o gerrig beddau rhyfel wedi eu gosod mewn rhesi twt.
Dynion ifanc o Ganada sydd wedi eu claddu yno, tu allan i Eglwys Farmor Bodelwyddan, milwyr wnaeth wirfoddoli i ymladd ar ran Prydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Fe roedden nhw wedi goroesi erchyllterau Ffrainc am bedair blynedd cyn marw yng ngogledd Cymru ar eu ffordd gartref.
Roedden nhw wedi eu lleoli yng ngwersyll byddin Parc Cinmel wedi i'r ymladd ar y cyfandir ddod i ben ym mis Tachwedd 1918.
Ond fisoedd yn ddiweddarach roedd yr 17,000 o filwyr ifanc dal yn ardal Bodelwyddan yn disgwyl i gael eu cludo mewn cychod nôl adref.
Oerfel, diffyg bwyd a'r ffliw
Roedd yr amodau byw yn wael ac roedd ffliw angheuol yn lledaenu drwy'r gwersyll.
I wneud pethau'n waeth roedden nhw wedi clywed bod y llongau oedd wedi eu clustnodi i fynd a nhw adref wedi cael eu defnyddio i fynd ag Americanwyr yn ôl gyntaf - er nad oedden nhw wedi ymuno â'r rhyfel tan 1917.
"Dynion ifanc oedden nhw, wedi goroesi yn Ffrainc, ac wedi gweld ac wedi bod yn rhan o'r gwaetha o'r trais a'r erchyllterau am bedair blynedd, ac eisiau mynd adra," meddai'r hanesydd lleol Geraint Owain.
"Roedd y gaeaf yn un oer eithriadol, roedd prinder dillad cynnes, roedden nhw'n cael llai o fwyd na'r hyn oedd carcharorion rhyfel yn ei gael - ac roedden nhw yn dal i orfod bod yn ddisgybledig, yn gwneud drills a parêds ac ati.
"Ar ben hyn roedd y bobl leol oedd yn rhedeg y bariau a'r siopau yn budrelwa drwy godi prisiau uchel am nwyddau - ac fe ffrwydrodd yr anniddigrwydd yn wenfflam un noson pan oedd y milwyr wedi meddwi."
Roedd hynny ar Fawrth 4ydd, 1919, pan ymosododd tua 800 ohonyn nhw ar ran o'r gwersyll gan ddwyn bwyd a diod.
Ar ôl ychydig oriau roedd yr awdurdodau yn credu bod y cyfan drosodd ac 80 o'r milwyr wedi eu harestio ac yn y ddalfa.
Marwolaethau ar ôl ymladd
Ond y diwrnod canlynol fe ddaeth nifer at ei gilydd unwaith eto a cheisio rhyddhau eu cyd-wladwyr gan ymladd gyda'r milwyr oedd yn driw i'w swyddogion.
Lladdwyd pump - yn cynnwys un o'r milwyr oedd yn amddiffyn y swyddogion - ac anafwyd degau o rai eraill.
Cafodd un corff ei gludo yn ddiweddarach i Ganada, ond mae'r gweddill wedi eu claddu gyda milwyr eraill o'r wlad fu farw yn yr un cyfnod oherwydd y ffliw.
Ond wedi i wasanaeth gael ei gynnal ddydd Sul i gofio'r dros 80 o filwyr sydd wedi eu claddu ym mynwent Eglwys y Santes Fererid, neu'r Eglwys Farmor, mae cwestiynau yn parhau ynglŷn â beth yn union ddigwyddodd.
Mae Geraint Owain, sy'n byw yn Rhuthun ac wedi ymchwilio i'r hanes ers degawdau, yn cofio siarad gyda dyn yn yr 1970au oedd yn arfer gweithio yn y gwersyll.
Meddai: "Roedd rhai o'i gyd-weithwyr wedi bod yno ers blynyddoedd yn hirach nag o, ac roedden nhw yno ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Dwi'n ei gofio fo'n dweud bod y dynion hynny fyddai wedi bod yno yn 1919 wedi dweud bod sŵn saethu i'w glywed am ddyddiau ac mae sibrydion wedi bod ers talwm bod mwy na phump wedi eu lladd."
Ychwanegodd Geraint Owain bod elfennau eraill o'r stori yn dwysau'r dirgelwch a'r amheuon bod yr awdurdodau ar y pryd yn ceisio celu'r gwir ac eisiau osgoi unrhyw fai am drin milwyr Canada mor wael.
"Mae pob catrawd a gwersyll fel hyn yn cadw cofnod dyddiol - War Diary - ac fe aeth un Parc Cinmel ar goll am ychydig wythnosau ar ôl y digwyddiad.
"Pan ddaeth yn ôl roedd rhai tudalennau ar goll a rhai newidiadau wedi eu gwneud."
Fe gafodd yr holl filwyr eu cludo yn ôl i Ganada o fewn ychydig wythnosau i'r terfysg ac felly roedd yr holl lygad dystion fyddai wedi rhoi tystiolaeth i lys y fyddin ar ochr arall i Fôr yr Iwerydd erbyn y gwrandawiadau.
Bolshevik neu bai ar gam?
Gŵr o'r enw William Tarasavitch, milwr o Ganada o dras Rwsiaidd, gafodd y bai am y terfysg.
Cafodd ei ladd gyda bayonette, ac yn ôl yr awdurdodau ef oedd wedi arwain y criw gan weiddi "Come on, Bolsheviks!"
Yn 1919 roedd pryderon y byddai gwrthryfel comiwnyddion Rwsia yn cael ei efelychu ym Mhrydain ac roedd yn gyfnod o drais ac ansicrwydd mewn dinasoedd ar draws Prydain.
Yn ôl Geraint Owain mae'r gwir yn debygol o fod yn symlach.
"Dwi'n meddwl bod William Tarasavitch wedi cael bai ar gam - doedd 'na ddim arweinydd ond i'r awdurdodau Saesnig roedd pwyntio bys ar y dyn yma yn ffitio'r naratif cywir iddyn nhw ar y pryd."