Colli 122 swydd wrth gau archfarchnad yn Y Barri
- Cyhoeddwyd
Mae archfarchnad Waitrose wedi cyhoeddi y bydd ei gangen yn Y Barri yn cau, gyda 122 o swyddi'n cael eu colli.
Fe wnaeth y cwmni gadarnhau y bydd yr archfarchnad yn cau ar 9 Mehefin.
Dywedodd Waitrose y byddai'n cwrdd â staff y gangen i gynnig cefnogaeth a chanfod swyddi arall "ble fo hynny'n bosib" os ydyn nhw'n dymuno aros gyda'r cwmni.
Mae'r siop ar Heol Palmerston wedi bod ar agor ers 15 mlynedd, ond dywedodd Waitrose nad yw'n "gynaliadwy yn y tymor hir".
'Staff yn flaenoriaeth'
Mae'r safle wedi cael ei werthu i gwmni Anlo Properties, ond dyw hi ddim yn eglur eto beth maen nhw'n bwriadu ei wneud gyda'r siop.
Dywedodd pennaeth rhanbarthol Waitrose, Alistair Bullock bod cau'r archfarchnad "ddim yn benderfyniad gafodd ei gymryd yn ysgafn, ond yn anffodus dydyn ni ddim wedi gallu canfod ffordd o'i wneud yn gynaliadwy yn y tymor hir".
"Ein blaenoriaeth yw ein staff sy'n gweithio yno, fydd yn cael eu cefnogi trwy'r broses a byddwn yn canfod cyfleoedd i'r rheiny sydd eisiau aros gyda'r busnes ble fo hynny'n bosib," meddai.