Trafod dyfodol canolfan gymunedol Bodffordd
- Cyhoeddwyd
Daeth tua 50 o bobl i gyfarfod cyhoeddus ym Modffordd, Ynys Môn, nos Wener i drafod dyfodol eu canolfan gymunedol.
Mae'r ganolfan yn rhannu safle ag ysgol y pentref, fydd yn cau wrth i Gyngor Ynys Môn ad-drefnu ysgolion cynradd y cylch.
Y cyngor sir sydd berchen yr adeilad yn gyfreithiol, ond fe gododd y gymuned filoedd o bunnau i sefydlu'r ganolfan yn y 1980au.
Er yn cydnabod nad oes gan y gymuned berchnogaeth ffurfiol o'r adeilad, pwysleisiodd nifer yn y cyfarfod fod pobl leol wedi llafurio am flynyddoedd i'w chodi.
"Mi fuodd 'na aberth i'w sicrhau hi yma", meddai'r cynghorydd cymuned Ellis Wyn Roberts wrth y trigolion.
Clywodd y cyfarfod y gallai prynu'r adeilad gostio hyd at £400,000 gan fod costau i'w drwsio, a byddai angen sicrhau lle i barcio hefyd.
Dydy Cyngor Ynys Môn heb bennu pris eto ac maen nhw'n gofyn i'r rheiny allai brynu'r safle i yrru datganiad o ddiddordeb erbyn 15 Mawrth.
Cyn y cyfarfod cyhoeddus dywedodd deilydd portffolio eiddo'r sir, y Cynghorydd Bob Parry, bod yr awdurdod lleol yn barod i roi cymorth i'r gymuned os ydy hi am geisio prynu'r safle.
Penderfynodd y pentrefwyr yn y cyfarfod sefydlu pwyllgor i weld oes modd cael y ganolfan am ddim gan y cyngor sir, ynghyd â'r posibilrwydd o brynu gweddill y safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2018