Gwahardd swyddog Heddlu Gwent am gamymddwyn difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog yr heddlu wedi cael ei gwahardd ar ôl derbyn anrhegion gwerth dros £35,000 yn ystod perthynas "anaddas" gyda dyn 87 oed.
Dechreuodd Fatou Mendy-Sambou, 28 oed o Gasnewydd, weithio i Heddlu Gwent ym mis Mawrth 2018, cyn ymddiswyddo ym mis Awst y llynedd.
Yn ogystal â derbyn £34,670 gan y dyn, roedd anrhegion eraill yn cynnwys car BMW, gemwaith, gwyliau tramor a help gyda chostau hyfforddi fel swyddog.
Cafodd PC Mendy-Sambou ei chyhuddo o gamymddwyn difrifol ac mae hi nawr wedi ei gwahardd rhag gweithio fel swyddog heddlu yn dilyn y "berthynas anaddas".
'Tanseilio hyder y cyhoedd'
Clywodd gwrandawiad disgyblu fod Mendy-Sambou wedi dod i gysylltiad gyda'r dyn wrth ofalu am ei wraig yn 2014.
Bu farw ei wraig yn 2015, ac fe wnaeth Mendy-Sambou barhau i gynnal cysylltiad gyda'r dyn a chynnal perthynas am dair blynedd pellach.
Wrth gyflwyno dadl yr heddlu yn y gwrandawiad, dywedodd Kate Connell: "Roedd sefydlu perthynas anaddas gyda'r dyn yn dangos diffyg gonestrwydd ac yn cymryd mantais o'r unigolyn.
"Byddai'r ymddygiad yma wedi bwrw amheuaeth ar gwasanaeth yr heddlu a thanseilio hyder y cyhoedd yn ein gwaith."
Dywedodd Maria Henry, cynrychiolydd Mendy-Sambou yn y gwrandawiad, ei bod hi'n derbyn bod ei hymddygiad yn cyfateb â chamymddwyn difrifol.