Adran 2: Northampton 1-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth yr eilydd Joe Powell sgorio gôl hwyr ddramatig i sicrhau buddugoliaeth i Northampton yn erbyn Casnewydd.
Ergydiodd Powell o 30 llath ar ôl 88 munud.
Jamille Matt ddaeth agosach at sgorio i Gasnewydd, ei beniad yn yr hanner cyntaf yn taro'r bar.
Daeth cyfle arall iddo wedi'r hanner, ond y tro hwn aeth ei ymdrech dros y bar.
Golygai'r canlyniad fod Casnewydd yn gostwng i safle 13 yn yr Ail Adran.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2019