Guto Bebb yn beirniadu 'cam gwag' Alun Cairns
- Cyhoeddwyd
Mae yna "ddyletswydd" ar Ysgrifennydd Cymru i egluro pam ei fod wedi pleidleisio yn erbyn diystyru Brexit heb gytundeb, yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol Guto Bebb.
Dywedodd Mr Bebb bod Alun Cairns wedi gwneud "cam gwag" nos Fercher.
Ar noson ddramatig yn San Steffan, cafodd cynnig yn enw'r Prif Weinidog ei ddiwygio gan arwain at gyfarwyddyd i Aelodau Seneddol Ceidwadol bleidleisio'n erbyn y cynnig gwreiddiol.
Er hynny fe bleidleisiodd Tŷ'r Cyffredin o blaid diystyru'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb o 321 i 278 gan arwain at bleidlais arall nos Iau dros ymestyn y broses Brexit.
Fe aeth nifer o weinidogion yn groes i'r chwip nos Fercher ac fe ymddiswyddodd un aelod o'r llywodraeth.
Fe aeth Mr Bebb ei hun yn groes i'r chwip a dywedodd ei bod hi'n "gywilydd o beth" bod Aelodau Seneddol o Gymru wedi pleidleisio dros gadw gadael heb gytundeb yn opsiwn.
"Fedra i ddim deall rhesymeg y rhai hynny sy'n cynrychioli etholaethau gwledig ac yn fodlon rhoi'r diwydiant amaeth mewn peryg fel maen nhw wedi ei wneud," meddai.
'Dyletswydd i egluro ei sefyllfa'
Fe bleidleisiodd y Ceidwadwyr Alun Cairns, Chris Davies, David Davies, Glyn Davies, Simon Hart a David Jones i gyd yn erbyn y cynnig ac felly o blaid cadw'r opsiwn o adael heb gytundeb.
Ymatal ei bleidlais wnaeth Stephen Crabb.
Yn ymateb i gwestiwn am bleidlais Mr Cairns yn benodol, dywedodd Guto Bebb, sy'n gyn-weinidog i Mr Cairns yn Swyddfa Cymru: "Cam gwag llwyr ar ei ran o, a dwi'n credu bod ganddo fo gyfrifoldeb i egluro ei sefyllfa i bobl yng Nghymru.
"Mae pawb yn ymwybodol bod Cymru'n mynd i ddiodde' mwy na'r rhan fwya' o rannau o Brydain os ydan ni'n gadael heb gytundeb felly dwi'n credu bod o'n ddyletswydd arno fo i egluro pam bod o wedi gwneud hynny."
Mae'r Ceidwadwyr wedi cael cais am ymateb.