Heddlu yn pryderu am athrawes Ysgol Plasmawr sydd ar goll
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn pryderu am ddynes o Gaerdydd sydd wedi bod ar goll ers nos Fawrth.
Mae Elin Boyle, 43 oed, yn athrawes yn Ysgol Plasmawr, Caerdydd.
Dyma'r ail dro iddi fynd ar goll o fewn pedwar mis.
Cafodd Ms Boyle ei gweld ddiwethaf yn gadael ei chartref yn Danescourt, Caerdydd am 17:50 ar 12 Mawrth.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu trwy ffonio 101.