Triniaeth yr heddlu o ddynes feichiog yn 'gywilyddus'

  • Cyhoeddwyd
Minnie Moloney (dde) a'i mamFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Minnie Moloney (dde, gyda'i mam) ei harestio yn ei chartref yng Nghaerdydd

Mae'r modd y cafodd menyw feichiog o deulu o Deithwyr Gwyddelig ei harestio yn "gywilyddus ac amhriodol", yn ôl elusen hil blaenllaw.

Fe wnaeth sawl swyddog heddlu gwrywaidd ymweld â Minnie Moloney yn ei chartref yng Nghaerdydd yn dilyn ffrae mewn siop chwe wythnos ynghynt.

Aeth Ms Moloney, sydd hefyd â phroblemau iechyd meddwl difrifol, yn afreolus wrth i'r heddlu osod gefynnau ar ei dwylo tra'r oedd hi'n gwisgo gŵn nos yn unig.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod eu gweithredoedd yn "gymesur ac angenrheidiol".

Dim swyddogion benywaidd

Dros fis ar ôl i Ms Moloney gael ffrae mewn siop, aeth swyddogion yr heddlu i'w thŷ.

Roedd un o'r heddweision yn ei chartref yn gwisgo camera corff ac mae modd gweld Ms Moloney yn dod i lawr y grisiau yn gwisgo ei gŵn nos.

Wrth iddi sylweddoli nad oedd swyddog benywaidd yn bresennol, mae hi'n dechrau troi'n hysterig ac yn ceisio cysylltu â'i mam, wrth i'r swyddogion ddweud wrthi am dawelu.

Yn y pen draw, mae Ms Moloney yn cael ei harwain allan i fan yr heddlu mewn gefynnau er gwaethaf ei phrotestiadau bod ei gwisg yn llacio ac y gallai hyn ddatgelu ei chorff noeth.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth gŵr Ms Moloney apelio ar yr heddlu i beidio gosod gefynnau ar ei dwylo am ei bod yn feichiog

Dywedodd Race Equality First y dylai'r sefyllfa fod wedi'i drin mewn ffordd wahanol oherwydd problemau iechyd meddwl Ms Moloney a'i chefndir diwylliannol, sy'n credu mai ei gŵr yw'r unig ddyn ddylai ei chyffwrdd.

Yn ôl yr elusen:

  • Dylai arbenigwr iechyd meddwl proffesiynol fod wedi asesu Ms Moloney gan fod yr heddlu'n gwybod am ei sefyllfa;

  • Bod angen swyddog benywaidd yno;

  • Dylai Ms Moloney fod wedi cael yr hawl i wisgo'n briodol cyn mynd i orsaf yr heddlu;

  • Dylai'r heddlu fod wedi gadael iddi fynd i'r orsaf ar ei liwt ei hun, fel yr oedd wedi gwneud yn y gorffennol.

Dywedodd Heddlu'r De fod ymchwiliad wedi dod i'r casgliad nad oedd Ms Moloney wedi cael ei cham-drin wrth gael ei harestio.

Cafodd ei rhyddhau heb ei chyhuddo.

'Dan straen'

Mae gan Ms Moloney nifer o broblemau iechyd meddwl gan gynnwys seicosis ac anhwylder gorbryder.

Dywedodd fod y profiad wedi ei bychanu, gan wneud iddi deimlo'n "ddiymadferth, dan straen a phryderus".

"Pan aethon nhw â fi allan o'r tŷ roeddwn i'n noeth, dan bwysau, doedd gen i ddim meddyginiaeth a doeddwn i ddim wedi deffro'n iawn," meddai.

"Roeddwn i'n gwybod y byddan nhw'n fy ngadael yn y gell."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Race Equality First wedi galw am ymchwiliad newydd i'r ffordd y cafodd Ms Moloney ei thrin

Daeth ymchwiliad gan Heddlu'r De a'r Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i'r canlyniad nad oedd achos pellach i'w ateb a bod dim tystiolaeth fod Ms Moloney wedi cael ei cham-drin.

Ond dywedodd Aliya Mohammed, prif weithredwr Race Equality First, ei bod wedi syfrdanu.

"Dydw i erioed wedi gweld achos sydd wedi ei ffilmio fel hyn, sy'n dangos ymddygiad brawychus o amhriodol a chywilyddus," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn credu ei fod yn achos o wahaniaethu ar sail hil.

"Pam nad ydym wedi gweld achos fel hyn sy'n effeithio ar unigolion sydd ddim o leiafrifoedd ethnig - sydd ddim yn Sipsiwn neu'n Deithiwr?"

'Brawychus iawn'

Mewn ymchwiliad gan yr Adran Safonau Proffesiynol, dywedodd y swyddog a arestiodd Minnie ei fod yn ofni y byddai'r sefyllfa'n gwaethygu'n gyflym.

Dywedodd yn ei ddatganiad: "Fe wnes i afael ym mraich Minnie ac yn syth mi drodd yn flin ac ymosodol, mewn modd rydw i prin wedi'i weld yn ystod fy nghyfnod o 10 mlynedd a hanner ar y rheng flaen."

Ffynhonnell y llun, South Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr heddlu fygwth arestio mam Ms Moloney os na fyddai hi'n symud i ffwrdd

Ond ar ôl gweld y deunydd, mae Ms Mohammed yn anghytuno.

"Mae 'na adegau lle mae hi'n dal ei dwylo i fyny, yn protestio," meddai.

"Mae hi'n rhegi llawer drwy'r fideo, ond dyw hi ddim yn taro unrhyw un, dyw hi ddim yn eu rhwystro chwaith. Mae hi'n protestio am y modd mae hi'n cael ei thrin.

"Doedd hi ddim yn ymddwyn yn rhy ymosodol, yn sicr gan ei bod yn hanner noeth, gyda gŵn nos sydd 'chydig yn llac a ddim yn cael cuddio'i hun. Dwi'n meddwl ei fod yn frawychus iawn."

'Sylwadau amhriodol'

Mae Ms Mohammed bellach wedi galw am ymchwiliad newydd.

"Yn y fideo, fe welwch chi'r heddlu yn syllu ar ei chorff noeth. Maen nhw'n chwerthin ac yn gwneud sylwadau amhriodol," meddai.

"Pam oedden nhw'n gwneud hynny? Pam oedd yr heddlu'n teimlo eu bod yn gallu gwneud sylwadau amhriodol?

"Mae'n teimlo fel eu bod yn cael tipyn o hwyl ar draul merch ifanc fregus."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aliya Mohammed ei bod wedi syfrdanu yn gweld y fideo o'r digwyddiad

Dywedodd Heddlu'r De fod y digwyddiad yn amlygu'r gwaith "anodd iawn" mae swyddogion yn ei wneud bob dydd a bod eu gweithredoedd yn gymesur ac angenrheidiol.

"Unwaith i'r gŵyn gael ei derbyn fe'i cyfeiriwyd at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu," meddai llefarydd.

"Cafodd y gŵyn wedyn ei ymchwilio'n lleol gan Adran Safonau Proffesiynol yr heddlu.

"Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad nad oedd gan yr un o'r swyddogion achos i'w ateb ac fe gafodd yr adroddiad ei anfon at yr achwynydd yn cynnwys canfyddiadau'r ymchwiliad."

Dywedodd yr heddlu ei fod wedi cyfarfod â Race Equality First, nad oedd unrhyw gwynion newydd wedi eu cyflwyno a'u bod wedi gwrthod hawliad sifil.

"Mae'r llu yn falch o'r ffordd y mae'n plismona cymunedau De Cymru - ardal fodern, amlddiwylliannol lle mae pobl o wahanol grefyddau a diwylliannau'n byw ochr yn ochr, ac wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer."

'Dwi ddim yn wahanol'

Ond nid yw Ms Moloney yn argyhoeddedig.

"Pe bai dau berson o Gyncoed yn cael dadl mewn ardal gyfoethog o Gaerdydd, a fydden nhw wedi arestio menyw o Gyncoed yn y modd y ces i f'arestio?" gofynnodd.

"A fydden nhw wedi arestio Mwslim yn y modd yma? A fydden nhw wedi arestio merch Gymreig gyffredin yn y modd yma?"

"Dwi ddim yn wahanol am 'mod i'n Deithiwr Gwyddelig. Dwi yr un fath â phawb arall. Dwi'n dal i waedu'r un peth, dwi'n dal i deimlo'r un peth."