Tri morwr yn cael eu hachub ar ôl trip i'r Barri

  • Cyhoeddwyd
achub y morwyrFfynhonnell y llun, RNLI Penarth

Bu'n rhaid i bum bad achub a hofrennydd fynd i chwilio am dri morwr oedd wedi mynd ar goll ar y ffordd yn ôl i'w llong.

Roedd y tri dyn wedi gadael y llong ar gwch llai i fynd ar drip i'r Barri.

Toc wedi 07:00 fore Iau, fe sylwyd nad oedd y morwyr wedi dychwelyd, a bod neb wedi eu gweld ers iddynt adael Y Barri am 03:45.

Cafodd y morwyr eu hachub am 08:30 gan wirfoddolwyr Gwylwyr y Glannau Penarth.

Roedd llong y morwyr, yr Alana Evita, wedi'i angori ym Môr Hafren, dwy filltir o arfordir Minehead yng Ngwlad yr Haf.

Fodd bynnag, dechreuodd y criw boeni am dri morwr, am nad oeddent wedi dychwelyd o drip i'r Barri nos Fercher.

Trafferthion tywydd

Aeth pum bad achub i chwilio am y tri, yn ogystal â hofrennydd.

Yn ôl datganiad gan Wylwyr y Glannau, cafodd y triawd ei ddarganfod "yn ddiogel ond yn oer iawn" ar Ynys Echni (Flat Holm), pedair milltir o arfordir Cymru.

Ychwanegodd y datganiad bod y morwyr wedi "mynd ar goll mewn amodau niwlog" ar eu ffordd yn ôl.

Yn ôl Mat Brown, warden Ynys Echni, cafodd gnoc ar y drws toc wedi 08:00 yn dweud bod ymwelwyr annisgwyl ar yr ynys.

"Roeddent mewn hwyliau da, yn hapus i fod yn gynnes ac i dderbyn gofal ar ôl i noson drawmatig ddod i ben," meddai.

Cadarnhaodd Heddlu'r De eu bod wedi ymweld â'r tri, a'u bod yn "fodlon" nad oedd yna unrhyw drosedd ynghlwm â'r digwyddiad.

Cafodd y tri ofal yng ngorsaf bad achub Y Barri wrth i drafnidiaeth i'w cludo yn ôl at eu llong gael ei drefnu.