Cadw'r hen draddodiad o wehyddu yn fyw
- Cyhoeddwyd
Mae Llio James o Aberystwyth yn defnyddio'r dechneg draddodiadol o wehyddu â llaw i greu defnydd unigryw i wneud cynnyrch ar gyfer y tŷ. Gwehyddu yw dull o greu defnydd drwy gydblethu darnau o edafedd.
Yma mae'n esbonio'r gelfyddyd, a pham bod cadw'r traddodiad yn bwysig.
Ers i Llio James raddio mewn gwehyddu â llaw o Brifysgol Manceinion ddeng mlynedd yn ôl ac astudio MA yng Nghaerfaddon, mae hi wedi bod yn arbrofi gyda deunyddiau eraill. Gweithiodd gyda chwmni yn Efrog Newydd am gyfnod yn gwneud blinds ffenestri o blastig, ac yna'n dylunio tartan i gwmni yn yr Alban.
Ond, roedd yr holl brofiadau hyn wedi cadarnhau bod ei bryd ar ddylunio a chynhyrchu ei defnydd ei hun, meddai, felly pan benderfynodd Llio mai gwehyddu yn y dull draddodiadol oedd hi am wneud, daeth yn ôl i Aberystwyth i redeg ei busnes ei hun.
"Mae gen i'r offer traddodiadol yn fy stiwdio sydd yn yr atig yn y tŷ, ac yma dwi'n creu defnydd ar gyfer gwneud clustogau, sgarffiau, carthenni ac ati.
"Llond llaw ohonon ni, efallai tua hanner dwsin, sy'n 'neud hyn yng Nghymru," meddai Llio, sy'n wreiddiol o Dal-y-bont yng Ngheredigion ond bellach yn byw yn Aberystwyth.
"Mae'n broses eitha' hir. O fesur yr ystof (warp), trwy ei roi ar y warping mill (sef rhyw fath o drwm sy'n troelli lle ti'n mesur yr ystof), cyn weindio yr edafedd ar gefn y gwŷdd.
"Wedyn rhaid cymryd pob edafedd ar ben ein hun a'i fwydo trwy a chlymu'r edafedd ar y gwŷdd. Mae'r broses o baratoi'r ystof yn gallu cymryd tua dau neu dri diwrnod, os ydw i'n defnyddio defnydd llydan," meddai Llio.
"Felly ar ôl hynny, dyna pryd mae'r broses draddodiadol o wehyddu yn dechre. Mae gen i wŷdd draddodiadol, lle dwi'n gwthio ar y pedalau, gan greu'r patrwm. Wedyn mae'r anwe (weft) sy'n rhedeg o ochr i ochr yn eistedd ar y wennol.
"Dwi'n ei weld yn broses ddiddorol, dwi'n gweld e fel celf, yn ogystal â chrefft," meddai.
Mae'n cynllunio a chreu brethyn ei hun ond mae hi hefyd yn cyd-weithio gyda'r melinau yng Nghymru, trwy gynllunio patrymau a rhoi'r cynlluniau i'r melinau i'w gwehyddu gyda'r peiriannau.
"Dwi'n mwynhau y broses o gydweithio gyda'r melinau. Gan bod e'n broses mor hirfaith i brosesu â llaw, mae'n ddrud, ac yn cymryd sbel i gynhyrchu, felly dwi'n gallu cynhyrchu defnydd yn y felin os dwi eisiau mwy o rywbeth."
Cadw'r traddodiad yn fyw
"Fi'n meddwl ei fod e'n bwysig i gadw'r traddodiad o wehyddu â llaw. Fe wnes i bach o ymchwil i'r diwydiant gwlân yng Nghymru pan o'n i'n y coleg, a blynyddoedd yn ôl roedd gen ti ddegau o felinau, jyst mewn un pentre, a dwi yn meddwl bod e'n dorcalonnus bod rheina ddim yn dal i fynd.
"Dwi wrth fy modd yn meddwl fy mod yn gallu creu rhywbeth hollol unigryw i rywun - dwi'n meddwl ei fod yn eitha' sbeshal mod i'n gallu creu hwnna."
'Parchu dillad a phrynu'n lleol'
Gyda mwy o sylw yn y newyddion am effaith y diwydiant ffasiwn a dillad rhad ar yr amgylchedd, mae Llio James yn credu'n gryf bod hi'n bwysig parchu dillad, a phrynu'n lleol.
"Unwaith wnes i ddechre cael fy addysgu yn y byd tecstiliau, o'n i'n ymwybodol iawn o'r prosesau yma, ti'n sylweddoli beth yw'r broses hirfaith, felly mae gen i gymaint mwy o barch at unrhywun sy'n creu y cynnyrch.
"O ran dillad, mae'n well gen i dalu lot mwy ar gyfer siaced fi'n gwybod wnâi wisgo am flynyddoedd i ddod. Mae fy nghwpwrdd dillad i yn eitha' bach, mae fy nhast i yn syml ofnadw'; anaml dwi'n gwisgo print, dwi'n gwisgo jeans wrth gwmni lleol - dwi'n trio cefnogi pobl lleol - ac mae lot well gen i dalu ddwywaith y pris am rywbeth a bydd yn para'n lot hirach.
"Dwi'n eithaf gobeithiol bod pawb yn dod yn lot fwy ymwybodol o sefyllfa ffasiwn throw away, a'r effaith mae'n cael ar yr amgylchedd. Gwlân yw'r rhan fwya o'r stwff dwi'n gwehyddu a mae 'na fanteision mawr i ddefnyddio gwlân.
"Dwi'n credu bod mwy o bobl â diddordeb yn y grefft ac mae pobl yn fodlon talu mwy am garthen sydd wedi gwehyddu â llaw, achos mae 'na stori, a mae pobl yn dod yn fwy a mwy ymwybodol."
Mae Llio James erbyn hyn yn darlithio rhan amser yng Ngholeg Celf Caerfyrddin, sy'n rhan o Goleg Sir Gâr, ac mae'n gweld bod y diddordeb mewn gwehyddu yn parhau ymysg myfyrwyr ifanc heddiw.
"Mae gan y disgyblion ddiddordeb mewn gwehyddu, yn enwedig gan ein bod ni'n clywed mwy am y problemau amgylcheddol, mae hynny yn y newyddion nawr, mae pobl yn meddwl am ble mae eu dillad nhw'n dod, a sut mae 'neud y dillad a'r deunyddiau.
"Mae gyda ni lot o bobl ar y cwrs yng Nghaerfyrddin â'r diddordeb i ddysgu'r grefft ac i'w barhau e, fi'n meddwl. Mae llond llaw o felinau i gael yng Nghymru, ond dwi'n hyderus bod 'na ddigon o ddiddordeb i'r traddodiad allu parhau."
Efallai o ddiddordeb: