Pwyllgor argyfyngau DEC Cymru'n lansio apêl Seiclon Idai
- Cyhoeddwyd
Mae Pwyllgor Argyfyngau Brys Cymru (DEC Cymru) wedi lansio apêl i helpu'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan Seiclon Idai.
Y gred yw bod 15,000 o bobl angen eu hachub yn nwyrain Affrica, a llawer mwy wedi colli eu cartrefi.
Mae cadarnhad bod tua 300 o bobl wedi marw ym Mozambique a Zimbabwe, ond mae disgwyl i'r nifer gynyddu.
Mae elusen Oxfam wedi dweud wrth y BBC bod ardal o 3,000 km sgwâr dan ddŵr.
Bydd apêl yn cael ei ddarlledu gan y prif ddarlledwyr nos Iau.