Un yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad difrifol Porthmadog
- Cyhoeddwyd
Mae un person mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad ar y ffordd osgoi rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth yng Ngwynedd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A487 tua 09:00 fore Mawrth.
Mae un person wedi cael ei gludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke ar ôl dioddef anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad rhwng lori a fan.
Cafodd gyrrwr y lori ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn y digwyddiad wrth i'r awdurdodau drefnu craen arbennig i symud y lori.
Mae'r ffordd bellach wedi ailagor.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth neu luniau dash-cam all fod yn berthnasol i'r ymchwiliad i'r achos.
Dywedodd y Sarjant Raymond Williams o'r Uned Plismona'r Ffyrdd: "Rydym yn apelio am dystion ac yn arbennig o awyddus i siarad ag unrhyw un allai fod wedi gweld y fan, oedd yn teithio o'r cylchdro ger Gorsaf Dân Porthmadog ar y ffordd osgoi i gyfeiriad Penrhyndeudraeth, yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad."