Cwsmer gwallt-gof: Salon yn cymryd cyngor cyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
GwalltFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rachel White nad oedd hi wedi sylweddoli bod ei gwallt yn gam nes iddi gyrraedd adref

Mae salon trin gwallt yn cymryd cyngor cyfreithiol ar ôl i gwsmer gwallt-gof wneud sylwadau "sarhaus" amdanynt ar Facebook.

Mae Rachel White, 20 o Ferthyr Tudful, yn dweud iddi dalu £65 a threulio pedair awr a hanner yn salon Arista Hair and Beauty yn Ffos y Gerddinen, Sir Caerffili, yn torri a lliwio ei gwallt.

Ond wedi iddi gyrraedd adref, dywedodd ei bod wedi sylweddoli ei fod wedi'i dorri'n gam.

Mae Arista Hair and Beauty wedi honni fod Ms White wedi cael effaith ar enw da'r salon ar ôl rhannu lluniau ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae'r salon hefyd yn dweud bod yr heddlu'n eu cynghori ynglŷn â negeseuon bygythiol wedi'r digwyddiad.

'Dim meddwl dwywaith'

Dywedodd Ms White: "Wnes i ddim meddwl dwywaith am beidio edrych ar y canlyniad am 'mod i wedi bod yno cyhyd."

"Dim ond trim oeddwn i wedi gofyn amdano felly doeddwn i ddim yn disgwyl llawer o newid, ond pan gyrhaeddais adref dywedodd fy nghyfnither bod fy ngwallt ddim yn syth."

Ychwanegodd bod "dim ffordd o guddio pa mor wael roedd e wedi cael ei dorri".

Dywedodd Ms White bod ei chyfnither wedi gorfod trimio ei gwallt cyn iddi allu wynebu mynd allan o'r tŷ a dychwelyd i'w gwaith fel dynes bost.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwallt Rachel White nawr llawer byrrach nag yr oedd hi eisiau

Fe wnaeth Ms White gwyno am y salon ar Facebook "i rybuddio pobl eraill am fy mhrofiad ofnadwy".

"Cefais i neges gan y salon yn dweud i mi ddod 'nôl ac y bydden nhw'n ei gywiro ond wnaethon nhw ddim ymddiheuro," meddai.

"Doedd 'na ddim siawns y byddwn i'n mynd 'nôl 'na."

Dywedodd Ms White bod salon arall wedi torri ei gwallt am ddim, ond ei fod nawr llawer byrrach nag yr oedd hi eisiau.

"Mae wedi cael effaith ar fy hyder ac ni fyddai'n cymryd hunlun nes ei fod wedi tyfu 'nôl yn llwyr," meddai.

'Wedi gadael yn hapus'

Mynnodd y salon eu bod wedi cynnig y cyfle i Ms White ddod yn ôl i'r salon er mwyn trafod ei phryderon a'u bod wedi cynnig ad-daliad llawn.

Ond ychwanegodd y datganiad eu bod yn derbyn cyngor cyfreithiol am y niwed sydd wedi'i wneud i enw da'r cwmni.

Dywedon nhw hefyd eu bod yn gweithio gyda'r heddlu ynglŷn â negeseuon bygythiol yn eu herbyn, gafodd eu gwneud ar gyfryngau cymdeithasol yn dilyn y digwyddiad.

Ychwanegodd y salon bod Ms White "wedi gadael yn hapus ac wedi talu'n llawn ar ôl cael ei steilio".