Gwasanaeth cyfiawnder 'wedi methu â diogelu plant'
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yn y de orllewin wedi methu â diogelu plant a'r cyhoedd, yn ôl arolygwyr.
Dangosodd adroddiad gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi bod gwasanaeth Bae'r Gorllewin wedi diystyru ffactorau risg posib a bod y gofal a roddid i'r cyhoedd yn "sâl".
Ymysg y pryderon gafodd eu hamlygu oedd bod dau blentyn oedd wedi lawrlwytho lluniau anweddus o gam-drin plant wedi cael eu nodi yn risg isel.
Dywedodd Bae'r Gorllewin eu bod nhw'n "derbyn y canfyddiadau yn llawn".
Daeth yr arolwg i'r casgliad fod gwasanaeth cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn dda ar y cyfan gyda sawl agwedd o'r gwasanaeth wedi creu argraff.
Arolygwyd gwasanaeth Bae'r Gorllewin, a ffurfiwyd yn 2014 drwy uno gwasanaethau yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, yn 2018.
Daeth cyhoeddiad wythnos ddiwethaf bod dull rhanbarthol Bae'r Gorllewin o wasanaethu yn dod i ben.
Yn ôl Andrew Jarrett, cadeirydd eu bwrdd rheoli, y byddai hyn yn sicrhau cydweithio agos rhwng gwasanaethau cymdeithasol y cynghorau a sefydliadau allanol i gynnig y "gwasanaethau gorau posib" i bobl ifanc bregus.
Ychwanegodd bod yr awdurdodau lleol wedi gweithredu ar nifer o'r materion gafodd eu nodi yn yr adroddiad, a'u bod nhw yn y broses o lunio cynllun mwy manwl i fynd i'r afael â'r pryderon.
'Diffyg dealltwriaeth'
Dywedodd y Fonesig Glenys Stacey, prif arolygydd yr Arolygiaeth Prawf: "Does dim un o'r tri awdurdod lleol wedi cymryd cyfrifoldeb llawn am y gwasanaeth. Mae hyn yn ganolog i nifer o'r problemau."
"Yn achos y plant oedd wedi lawrlwytho'r deunydd anweddus, doedd ymchwilwyr Bae'r Gorllewin ddim wedi deall gallu'r plant i gael mynediad at y 'rhyngrwyd tywyll', tra'i bod hi bron yn amhosib cael gafael ar ddeunydd o'r fath mewn camgymeriad."
Roedd pryderon yr Arolygiaeth mor ddifrifol fel eu bod nhw wedi gosod "rhybudd sefydliadol" am y tro cyntaf.
Fe ofynnodd yr arolygwyr i'r gwasanaeth lunio cynllun er mwyn dangos sut byddai modd adolygu achosion, ond "ni luniwyd unrhyw gynllun, ac roedd yr ymateb i'r rhybudd sefydliadol yn dangos diffyg dealltwriaeth".
Ychwanegodd yr adroddiad bod rhai plant mor ifanc ag wyth oed ag anghenion diogelu yn cael eu cyfeirio at gynllun cyfiawnder troseddol.
Canfyddiadau'r ardroddiad
Nid oedd dealltwriaeth y bwrdd rheoli o'u cyfrifoldebau a'u hanawsterau yn ddigonol.
Y maes cryfaf o'r gwasanaeth oedd y gefnogaeth er mwyn rhwystro plant a phobl ifanc rhag ail-droseddu.
Roedd aelodau staff yn cael eu gorfodi i ymateb i symptomau problemau systematig gwirioneddol.
Roedd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar y plant a phobl ifanc ac roedd staff yn gwneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd.
Er bod agweddau da i'r gwasanaeth doedd ddim modd mesur faint o blant a phobl ifanc nad oedd yn derbyn addysg, hyfforddiant a chyfle am gyflog.
Cafodd pennaeth newydd ei benodi ym mis Tachwedd gyda'r dasg o dynnu Pen-y-bont allan o'r uniad, ond dywedodd yr adroddiad nad oedd yna fesurau i reoli'r risg y byddai hyn yn achosi i'r gwasanaeth.
Ychwanegodd y Fonesig Stacey: "Rydyn ni'n disgwyl gweld y bwrdd rheoli yn gweithredu ar frys er mwyn ymateb i'r argymhellion."