£15m i helpu landlordiaid cymdeithasol godi mwy o dai

  • Cyhoeddwyd
Julie James
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julie James AC fod y llywodraeth wedi ymrwymo i godi 20,000 o dai fforddiadwy

Bydd £14.67m yn cael ei roi i helpu landlordiaid cymdeithasol i adeiladu rhagor o gartrefi yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r arian ar gael drwy gynllun Tir ar gyfer Tai, sy'n galluogi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i fenthyg arian i brynu tir i adeiladu arno.

Gan mai darparu benthyciadau y mae'r cynllun, mae'r arian yn cael ei ailgylchu wrth i'r benthyciadau gael eu had-dalu.

Ers dechrau'r cynllun yn 2015, mae £52m wedi cael ei fuddsoddi, a 4,100 o gartrefi wedi'u hadeiladu, gyda 84% o'r rheiny yn dai fforddiadwy.

20,000 o dai fforddiadwy

Dywedodd Julie James, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: "Mae a wnelo tai â chymaint yn fwy na briciau a morter.

"Mae mor bwysig bod tai diogel, fforddiadwy ar gael i bawb yng Nghymru fel y gallant gyflawni eu potensial."

Ychwanegodd bod y llywodraeth wedi "ymrwymo i greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy" yn ystod tymor y llywodraeth hon.

Mae 17 cynllun sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer 2018/19 wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Wrecsam.