Carcharu wyth aelod o gang cyffuriau o Gasnewydd

  • Cyhoeddwyd
GangFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y criw eu harestio yn dilyn ymgyrch blwyddyn o hyd gan yr heddlu

Mae wyth aelod o deulu wnaeth gyflenwi Casnewydd â gwerth hyd at £2.5m o gyffuriau wedi cael eu carcharu.

Fe wnaethon nhw ddosbarthu tua 42kg o gocên yn y ddinas rhwng Gorffennaf 2016 a Mehefin 2018.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Casnewydd bod yr wyth ohonyn nhw wedi chwarae rôl.

Cafodd hanner y gang - wedi'u harwain gan y brodyr Jerome a Blaine Nunes - eu carcharu ddydd Gwener.

Bydd wyth arall, gan gynnwys mam y pâr, Angela Collingbourne, yn cael eu dedfrydu yn y dyfodol.

Y ddau eisoes dan glo

Fe ddechreuodd y criw trwy weithio allan o garej deiars, oedd yn ôl yr erlyniad yn cael ei ddefnyddio i guddio eu gweithredoedd.

Roedd fideo o'r garej yn dangos bod y busnes yn gwneud miloedd o bunnoedd yn ddyddiol, er mai dim ond ychydig o geir oedd yn cael eu trin yno.

Cafwyd y brodyr yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffur dosbarth A yn dilyn achos, ac fe wnaeth chwe diffynnydd arall bledio'n euog i'r un cyhuddiad.

Dywedodd y barnwr mai un o "elfennau mwyaf digalon" yr achos oedd y ffaith fod Jerome Nunes wedi gallu llywio'r grŵp o'r carchar gan ddefnyddio ffonau symudol oedd wedi'u cuddio.

Roedd eisoes yn treulio dedfryd o bron i wyth mlynedd dan glo am fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.

Bydd nawr yn treulio 12 blynedd ychwanegol dan glo, ac fe gafodd ei frawd Blaine Nunes ei ddedfrydu i 13 blynedd o garchar.

Roedd Blaine eisoes yn y carchar hefyd, yn dilyn dedfryd o bedair blynedd ac wyth mis am achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Dedfrydau

Yr aelodau eraill o'r criw gafodd eu carcharu ddydd Gwener oedd:

  • Preston Killoran, 25, wyth blynedd ac wyth mis;

  • Thomas Allison, 26, 10 mlynedd;

  • Kieran Vodden, 23, saith blynedd ac wyth mis;

  • Ashley Lloyd, 23, chwe blynedd;

  • Joel Clark, 23, chwe blynedd;

  • Daniel Richardson, 34, pum mlynedd.