Pibellau gorsaf bŵer wedi 'cwympo' wedi gwaith drilio

  • Cyhoeddwyd
Pibellau yng NghwmrheidolFfynhonnell y llun, James Salvona
Disgrifiad o’r llun,

Y ffordd trwy Gwmrheidol ar gau wedi i'r pibellau gwympo

Mae yna amheuaeth bod tua hanner cilomedr o bibellau wedi cwympo i lawr bryn uwchben pentref ger Aberystwyth gan lanio yng ngardd un o'r cartrefi.

Yn ôl un o drigolion Cwmrheidol fe ddigwyddodd hynny tua 22:00 nos Lun ger safle gwaith drilio ar ran y cwmni o Norwy, Statkraft sy'n berchen ar Orsaf Bŵer Rheidol.

Dywed James Salvona bod tua 540 medr o bibellau wedi diweddu yng ngardd gefn ei gymydog gan lanio ar ei gar a'i garej, a bod y ffordd trwy'r pentref ar gau.

Dywedodd aelod o staff yr orsaf bŵer eu bod yn parhau i ddelio â'r sefyllfa ond ni roddodd ragor o fanylion am y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, James Salvona

Fe ddechreuodd y gwaith drilio ger tai yng Nghwmrheidol fis diwethaf er mwyn ailosod ceblau allforio trydan o'r orsaf ynni dŵr.

Mae Statkraft yn dweud bod y gwaith yn hanfodol gan fod y ceblau presennol wedi eu gosod tua 60 o flynyddoedd yn ôl.

Mae'r gwaith i fod yn bara am 56 o ddiwrnodau, ond mae trigolion yn honni bod gwaith cysylltiedig yn debygol o barhau tan yr hydref.

Mae pobl sy'n byw ychydig fetrau o'r ardal lle mae'r drilio yn digwydd eisoes wedi mynegi pryderon y gallai'r gwaith achosi problemau sŵn a llygredd,

Ffynhonnell y llun, James Salvona
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhannau o'r pibellau wedi diweddu yn Afon Rheidol