Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-0 Brentford

  • Cyhoeddwyd
DyerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Dyer yn y gynghrair i Abertawe am y tro cyntaf ers 2014

Fe lwyddodd Abertawe i daro 'nôl wedi siom y penwythnos gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Brentford yn Stadiwm Liberty.

Aeth yr Elyrch ar y blaen wedi eiliadau yn unig diolch i gôl Nathan Dyer.

Manteisiodd Daniel James ar gyffyrddiad llac Bech Sörensen cyn iddo gael ei dynnu lawr gan y golwr. Fe adlamodd y bêl yn ffodus i gyfeiriad Dyer, wnaeth ergydio'n yn hawdd i gefn y rhwyd.

Bron i James ddyblu mantais y tîm cartref gydag ergyd o ochr chwith y cwrt cosbi, ond fe darodd y trawst.

Daeth yr ail gôl wedi 32 munud wrth i gic Kristoffer Nordfeldt, golwr Abertawe, ddarganfod Dyer mewn gwagle yn hanner yr ymwelwyr.

Llwyddodd yr asgellwr profiadol i daro'r bêl yn gywir drwy goesau'r golwr.

Er i'r ymwelwyr greu ambell i gyfle yn yr ail hanner, fe ychwanegodd James y drydedd wedi 78 munud gydag ergyd gadarn i gornel chwith y rhwyd.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Abertawe yn codi i'r 14eg safle yn y tabl.