Setliad i'r pêl-droediwr Ched Evans gyda'i gyn-gyfreithwyr
- Cyhoeddwyd
Mae'r pêl-droediwr Ched Evans wedi cyrraedd setliad y tu allan i'r llys gyda'r cyfreithwyr oedd yn ei amddiffyn yn yr achos a arweiniodd ato'n treulio dwy flynedd a hanner dan glo.
Cafwyd Mr Evans yn ddieuog o dreisio mewn ail achos yn 2016.
Roedd wedi erlyn ei gyn-gyfreithwyr, Brabners, i geisio adennill miliynau o bunnoedd o gyflog roedd yn honni iddo golli oherwydd ei fod yn y carchar.
Mae'r BBC ar ddeall y bydd Mr Evans yn derbyn swm chwe ffigwr.
Yn yr achos gwreiddiol yn 2012, cafwyd Mr Evans - cyn-chwaraewr Manchester City sydd wedi ennill 13 cap dros Gymru - yn euog o dreisio dynes 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl flwyddyn ynghynt.
Ar y pryd roedd yn chwarae dros Sheffield United, a'r gred yw ei fod yn ennill cyflog o £18,000 yr wythnos.
Ond fe wnaeth y Llys Apêl ddileu ei euogfarn, ac fe'i cafwyd yn ddieuog gan reithgor mewn ail achos yn 2016.
Mae'r gŵr o'r Rhyl bellach yn chwarae i Fleetwood Town yn Adran Un, ar fenthyg gan Sheffield United.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2016