Cofio trychineb Hillsborough

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm

Roedd Dylan Jones yn stadiwm Hillsborough ar 15 Ebrill, 1989, i sylwebu ar gêm bêl-droed.

O fewn chwe munud i'r chwiban gyntaf roedd yn gohebu ar drasedi laddodd 96 o ddynion, menywod a phlant.

Yma mae cyflwynydd Ar y Marc a'r Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru yn rhannu ei atgofion o'r diwrnod hwnnw 30 mlynedd yn ôl pan gafodd cefnogwyr Lerpwl eu gwasgu i farwolaeth, gan arwain at frwydr hir i'w teuluoedd brofi beth achosodd y drychineb.

line

"Prynhawn da. Croeso nôl.

"Roedd yn bleser cael eich croesawu yma'r llynedd i gystadlu mewn rownd cyn-derfynol o Gwpan yr FA. Roeddwn wrth fy modd yn clywed y newyddion y byddech yn dychwelyd yma eleni...

"Wrth i chi edrych o amgylch Hillsborough mi fedrwch werthfawrogi pam ei fod wedi cael ei ystyried cyhyd yn lle perffaith i gynnal pob math o gemau pwysig...

"Gobeithio y bydd hi'n gêm dda, gofiadwy a fydd yn cael ei chwarae yng ngwir ysbryd y gystadleuaeth."

Geiriau Cadeirydd Sheffield Wednesday Mr H.E. McGee ar dudalen gyntaf rhaglen y gêm yn rownd cyn derfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar 15 Ebrill 1989.

Wedi i'r ddau glwb wynebu ei gilydd ar yr un cae yn yr un rownd o'r gystadleuaeth y flwyddyn flaenorol fe ddychwelodd y miloedd i dde Sir Efrog i'r "stadiwm berffaith" ar ddiwrnod godidog o wanwyn.

hillsboroughFfynhonnell y llun, David Goddard
Disgrifiad o’r llun,

Stadiwm Hillsborough, sydd dal yn gartref i Glwb Pêl-droed Sheffield Wednesday

Yn drychinebus i'r 96 fu farw, eu perthnasau a'u ffrindiau a'r cannoedd ddioddefodd yn gorfforol ac yn feddyliol... yn unol â dymuniad Mr McGee, fydd yna neb yn anghofio'r diwrnod, ac mi fydd ysbryd Hillsborough yn gwmwl dros y byd pêl-droed am byth.

Wrth deithio dros y Pennines ar y bore heulog hwnnw roeddwn yn teimlo yn fwy cyffrous nag arfer o gael mynd i sylwebu ar gêm.

Gwir ydi dweud fy mod wedi sylwebu ar gannoedd o semi ffeinals a ffeinals flynyddoedd cyn hynny yn ystod fy mhlentyndod ym mhentref Capel Garmon yn Nyffryn Conwy.

Fel rheol roedd Bremner yn pasio'r bêl i Gray ar yr asgell cyn i'r Albanwr chwim groesi'n berffaith i Jones (Dylan nid Mick) i sgorio'r gôl hollbwysig heibio i Stepney ar y postyn pella'!

Er gwaetha'r profiad dychmygol hwnnw a'r realiti o sylwebu bob Dydd Sadwrn ar hyd a lled Cymru a Lloegr ar gyfer Radio Cymru, hon oedd gêm bwysica' fy mywyd. Ychydig a wyddwn cymaint o ddylanwad fyddai'r gêm yn Hillsborough yn cael ar fy ngyrfa i wedyn.

Ar y pryd roeddwn yn Bennaeth yr Adran Hanes a Gwleidyddiaeth yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy ac yn ffeirio fy llyfr marcio am y Rothman's Year Book bob penwythnos i fod yn sylwebydd radio.

Paratoi i sylwebu ar gêm bêl-droed

Oherwydd fod yna gymaint o alw am ffôns ac offer darlledu ar gyfer y gêm fawr yn Hillsborough, fe logodd y BBC ffôn symudol ar fy nghyfer. Rhywbeth mawr trwsgwl ansoffistigedig gyda batri digon mawr i danio car.

Hillsborough
Disgrifiad o’r llun,

Y cefnogwyr a fu farw yn Hillsborough

Gan eu bod yn bethau gweddol anghyffredin bryd hynny bu'n rhaid i mi gael rhywfaint o hunan-hyfforddiant ar y nos Wener i ymgynefino â'r teclyn. Wedi'r cwbwl tydi sylwebydd ond cystal â'i feicroffon, ac ar noswyl y gêm dyma deithio i dŷ Dafydd Roberts ym mhen arall Dyffryn Clywd ym Mhwll Glas ger Rhuthun.

Fo oedd yn mynd i sylwebu ar y semi arall ym Mharc Villa rhwng y Gleision Glannau Mersi a Norwich. Wedi awr neu ddwy o ymarfer roedden ni'n dau yn gyfarwydd â'n hoffer ac yn awchu i'w defnyddio. Yn anffodus dim ond un o'r ffonau fu'n boeth y prynhawn canlynol.

line
line

Mi fyddwn wastad yn cychwyn i gemau mewn da bryd i osgoi tagfeydd traffig ac ati. A chan y byddai'n rhaid i mi deithio i Hillsborough o'r un cyfeiriad â selogion y Kop y diwrnod hwnnw doedd dim amdani ond cychwyn yn gynt nag arfer.

Drwy'r wythnos flaenorol bûm yn gwneud fy ngwaith cartre' yn drylwyr, ac wrth deithio i'r dwyrain ar hyd yr M62 roeddwn fel petawn yn paratoi ar gyfer prawf hanes unwaith eto.

"Sawl gwaith mae Lerpwl wedi chwarae mewn rownd cyn derfynol Cwpan yr FA?" "Un ar bymtheg." "Forest ?" "Deg, a'r tair ers y rhyfel i gyd wedi cael eu cynnal yn Hillsborough."

"Cofia nad ydi Clough erioed wedi ennill y Cwpan fel chwaraewr na rheolwr."

Diolch i'r swatio fe aeth y daith yn ddigon hwylus, yn wir ychydig iawn o gefnogwyr Lerpwl weles i ar y ffordd a phan gyrhaeddes y ddinas ddur cefnogwyr Clough nid Dalglish oedd ym mhobman o amgylch y stadiwm.

Rhan o'r teras yn wag cyn y gêm

Mae golwg unrhyw un sy'n edrych yn ôl ar ddigwyddiadau yn well na golwg y barcud craffaf. Am tua chwarter i dri ar y pnawn Sadwrn rwy'n cofio sylwi ar y teras lle roedd cefnogwyr Lerpwl yn sefyll, y tu ôl i'r gôl i'r chwith o'r pwynt sylwebu.

Roedd rhan ohono yn wag, erbyn heddiw mae pawb yn gwybod pam, ond feddylies i fawr mwy am y peth ar y pryd. Er hynny rwyf yn cofio synnu gweld mai cefnogwyr Forest oedd yn sefyll ar y Kop anferth. Oni fyddai wedi bod yn well gadael i ddilynwyr Lerpwl fynd i'r teras hwnnw o gofio fod gan y cochion lawer mwy o gefnogwyr na'u gwrthwynebwyr o'r canolbarth?

Dylan Jones yn cyfweld i Ar y Marc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Jones yn lais cyfarwydd i wrandwyr Radio Cymru ers blynyddoedd ac mae'n cyflwyno 'Ar y Marc' ar yr orsaf bob bore Sadwrn

Byddai wrth gwrs, ond y frwydr oedd ar fin digwydd ar y cae oedd yn mynd â bryd pawb yng nghanol yr awyrgylch drydanol a'r sŵn byddarol, nid rhyw wleidyddiaeth ddibwys ynglŷn â lle roedd pobol yn cael sefyll. Doeddwn innau ddim yn eithriad.

Fe ddechreuodd y ddau dîm ar dân er mwyn ceisio cyrraedd Wembley. Oni ddywedodd y brenin Shankly rywdro fod pêl-droed yn bwysicach na bywyd? Felly oedd hi'n ymddangos yn ystod y munudau cyntaf o leiaf. A phan darodd Beardsley y trawst i Lerpwl "gyda tharan o ergyd" o flaen y Kop wedi chwe munud roedd pethau yn argoeli'n dda.

Fyddwn i ddim yn brin o rywbeth i'w ddweud yn fy adroddiad cyntaf i wrandawyr Radio Cymru. Gwir y gair yn enwedig pan ddechreuodd rhai o gefnogwyr Lerpwl ddringo dros y ffens i fynd ar y cae. Fy ymateb cyntaf i a'm cyd-sylwebwyr oedd "hwliganiaeth".

Newyddion bod rhai wedi marw

Ar ddiwedd yr wythdegau roedd y clefyd yn dal yn rhan annatod o'r byd pêl-droed a doedd dim rheswm i feddwl yn wahanol yn Hillsborough. Buan iawn y sylweddolwyd fod ein hymateb cyntaf wedi bod yn un cwbl fyrbwyll.

O fewn eiliadau i ergyd Beardsley gwelais gefnogwyr hen ac ifanc yn gorwedd yn llonydd ar y cae, cefnogwyr eraill yn ymdrechu i'w dadebru. Dynion yn rhedeg yn orffwyll yn erfyn am gymorth, a phlismyn yn sefyll yn syfrdan. O'r funud honno cafodd fy "ystadegau gwerthfawr" eu disodli gan ystadegau o fath gwahanol.

Cloc stadiwm Hillsborough yn dangos 3.06 - yr amser pan gafodd y gêm ei stopioFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cloc stadiwm Hillsborough yn dangos 3.06 - yr amser pan gafodd y gêm ei stopio

Daeth y newyddion erchyll i loc y wasg yn y brif eisteddle fod tri o leia' wedi marw. Gofynnais wrth fy nghynhyrchydd, Emyr Wyn Williams yng Nghaerdydd beth ddylwn ei ddweud. Ei ateb pendant oedd "os ydi'r ffigyrau yn cael eu cadarnhau yna mae'n rhaid i ti eu darlledu".

Felly, i gyfeiliant sŵn seiren ambiwlans yn y cefndir dyna'n union wnes i gan gofio fod yna berthnasau a chyfeillion i'r gwrandawyr yn bresennol yn y gêm. Roedd yn rhaid bod yn sensitif ac yn ddoeth heb greu panig dianghenraid, a hynny heb unrhyw hyfforddiant newyddiadurol.

Fe gododd nifer y meirw yn gyson drwy gydol y prynhawn ac mae llawer wedi gofyn i mi ers hynny pa mor anodd oedd darlledu ar y fath drychineb. I fod yn onest doeddwn i ddim yn teimlo yn rhy emosiynol.

O'r brif eisteddle roedd y cyfan fel pe bai yn digwydd ar sgrin deledu o'm blaen a finnau yn darlledu o'r tu allan rywsut, ond gyda chewri caled fel Jack Charlton a Lawrie McMenemy â dagrau yn eu llygaid wrth fy ymyl doedd dim posib datgysylltu fy hun yn llwyr o'r emosiwn.

Pan gyhoeddwyd ar yr uchel seinydd na fyddai'r gêm yn parhau does gennai ddim cof o'r stadiwm yn gwagio nac am faint o amser y bûm yn darlledu. Anghofia'i byth, fodd bynnag, wynebau dau fachgen bach ddaeth i loc y wasg o'r Leppings Lane i chwilio am eu tadau, a'r stadiwm erbyn hynny yn hollol wag ac yn fyddarol ddistaw. Sgarffiau Lerpwl am eu garddynau, ofn yn eu dagrau ac mewn acen scows yn gofyn am help. Does ond gobeithio nad oedd eu rhieni ymysg y 96 fu farw.

Cefnogwr yn Hillsborough wedi'r drychinebFfynhonnell y llun, PA

Yna ar ôl rhoi benthyg y ffôn i James Lawton o'r Daily Express a Rogan Taylor o Gymdeithas y Cefnogwyr er mwyn iddyn nhw gael dweud wrth eu gwragedd eu bod yn ddiogel gyrrais draw i gynhadledd y wasg ym Mhencadlys Heddlu De Sir Efrog yng nghanol Sheffield.

Roedd y lle yn berwi o newyddiadurwyr ac OB's. Pawb am gael gwybod "Faint?" a "Pham?" Mi gawsom ateb brawychus i'r cwestiwn cynta', bu'n rhaid disgwyl am ormod o flynyddoedd o lawer am ateb i'r llall.

Taith hir a dwys oedd honno yn ôl adref i Ddyffryn Clwyd. Doedd yna ddim gofynion darlledu i reoli'r meddwl, ac yn ystod yr wythnos ganlynol daeth maint y cyfan yn fwyfwy amlwg i mi.

Ynghyd â'r miloedd eraill fe es i Anfield i osod blodau ac i blygu pen... ond rywsut er fy mod wedi bod yn bresennol yn Hillsborough roeddwn yn dal i deimlo fel pe bawn yn edrych o'r tu allan. Doedd hon ddim yn drychineb i mi yn bersonol.

Blodau a theyrngedau yn Anfield i gofio'r rhai laddwyd yn HillsboroughFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Blodau a theyrngedau yn Anfield i gofio'r rhai a laddwyd yn Hillsborough

Wrth i Lannau Mersi alaru mi gefais wahoddiad wedyn i ymuno ag Adran Newyddion y BBC yn llawn amser. Gwahoddiad a dderbyniais yn y diwedd.

Heddiw ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach lle nad oes sôn am derasau yn Hillsborough nac mewn unrhyw brif stadiwm arall yn Lloegr mae pêl droed wedi cael ei drawsnewid. Mae hi'n gêm ffasiynol a derbyniol... y tristwch ydi y bu'n rhaid cael trychineb i sbarduno'r newid.

Dywedodd Cadeirydd Sheffield Wednesday, Mr H.E. McGee yn rhaglen y dydd ar 15 Ebrill 1989: "Colli gêm mewn rownd gyn derfynol ydi'r profiad mwyaf teimladwy mewn pêl- droed."

Choelia'i fawr.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw