Honiadau o gam-drin hiliol mewn gêm bêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o un o bwyllgorau San Steffan wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd erlyniadau yn dilyn honiadau o gam-drin hiliol mewn gêm bêl-droed.
Mae dau chwaraewr gyda STM Sports, o Lanrhymni, Caerdydd wedi dweud eu bod nhw wedi eu cam-drin gan gefnogwyr clwb Cefn Albion o Wrecsam yn rownd gynderfynol Tlws Cymdeithas Pêl-Droed Cymru fis diwethaf.
Yn ystod y gêm yn Y Drenewydd, mae Hermon Yohanes a Lamin Conteh yn honni eu bod wedi eu eu cam-drin dro ar ôl tro gan gefnogwyr wrth iddyn nhw chwarae'n y gêm.
Dywedodd Cefn Albion nad oedden nhw'n ymwybodol o'r honiadau nes iddyn nhw gael eu darlledu yr wythnos hon.
Mewn datganiad dywedodd Hermon Yohanes bod bobl wedi ei alw'n enwau sarhaus iawn. Dywedodd: "Dwi erioed wedi cael fy nhrin fel hyn o'r blaen.
"Roedd yn ddiwrnod trist iawn ac mae wedi effeithio llawer arna i. Mae'n rhaid gwneud rhywbeth."
Dywedodd Lamin Conteh ei fod wedi chwarae i'r tîm am flynyddoedd ac nad oedd erioed wedi clywed y fath hiliaeth - gan gynnwys sylw am liw croen y ddau ac ymddygiad gwael.
Angen addysg benodol
Yn ôl ysgrifennydd clwb STM, Nigel Bircham - nid dyma'r tro cyntaf i'r clwb wynebu hiliaeth.
Mae Mr Bircham wedi ysgrifennu e-bost at Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn gofyn am esboniad pam bod Cefn Albion yn cael chwarae yn y ffeinal y penwythnos hwn.
Yn y cyfamser, mae'r AS Llafur Jo Stevens wedi dweud bod yr hyn ddigwyddodd yn ystod y gêm yn "broblem ddifrifol" ac mae'n dweud bod angen cyflwyno addysg benodol sy'n mynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion. Mae hi hefyd yn dweud ei bod yn gobeithio y bydd yna erlyniadau.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod nhw'n cynnal ymchwiliad, gan ddweud mewn datganiad: "Rydyn ni'n ymwybodol o honiadau o gam-drin hiliol ac ni fydd hyn yn cael ei ddioddef.
"Ein bwriad yw ymdrechu i gael tystiolaeth fydd yn ein galluogi i erlyn unrhyw droseddwyr. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, y chwaraewyr a'r clwb dan sylw er mwyn eu cefnogi a sicrhau erlyniadau."
Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd gyhoeddi datganiad sy'n dweud: "Mae CBDC, ar y cyd â Heddlu Dyfed-Powys, yn ymchwilio i nifer o ddigwyddiadau honedig yn ystod gêm gynderfynol Tlws CBDC rhwng Cefn Albion a STM Sports.
"Bydd Rownd Derfynol Tlws CBDC rhwng Pontardawe a Chefn Albion yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn fel y bwriadwyd."
Ychwanegodd y Gymdeithas fod yr achos yma'n dal yn mynd yn ei flaen, ac felly nad oedden nhw mewn sefyllfa i allu dweud unrhyw beth mwy penodol ar hyn o bryd.
'Gweithredu'n briodol'
Wrth ymateb i'r honiadau dywedodd cadeirydd clwb Cefn Albion, Haydn Evans: "Yn ddiweddar iawn y daeth yr honiadau yma i'r amlwg, a nes iddyn nhw gael eu darlledu yr wythnos hon, doedd y clwb ddim yn ymwybodol ohonyn nhw.
"Roedd swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys ar ddyletswydd yn y gêm, a gall y clwb gadarnhau nad ydym wedi derbyn cysylltiad uniongyrchol ganddyn nhw, clwb STM na CBDC ar y mater.
"Rydym yn falch o fod yn llysgenhadon i'n cymuned ac am gynnig amgylchedd croesawgar i chwaraewyr a chefnogwyr o bob cefndir.
"Os fyddwn yn derbyn unrhyw dystiolaeth sy'n gwirio'r cam-drin hiliol yna byddwn yn gweithio gyda'r heddlu a CBDC i weithredu'n briodol."