Ynni adnewyddadwy wrth eistedd ar fainc yn sir Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae meinciau go arbennig wedi eu gosod mewn tair cymuned wledig yn Sir Conwy.
Wrth gwrs mae modd eistedd ar y meinciau yn Llangernyw, Llanfair Talhaearn a thref Conwy, ond mae'n bosib hefyd gwefru ffonau symudol a dyfeisiadau eraill a chreu goleuni gyda'r nos ar y meinciau.
Fe fydd paneli solar hefyd ar y meinciau Steora, ac fe fyddan nhw hefyd yn medru casglu data wrth iddyn nhw gael eu defnyddio.
Daw'r cynllun fel rhan o brosiect Conwy Cynhaliol, a dywedodd eu swyddog cefn gwlad, Meira Woosnam: "Mae'r cyllid ar gyfer hwn yn ymwneud â threialu syniadau dyfeisgar, ac roedden ni wrth ein bodd fod y grŵp gweithredu lleol yma yng Nghonwy yn cefnogi prosiect sy'n hybu ynni adnewyddadwy ac yn gwella profiad ymwelwyr."
Dywedodd y Cynghorydd Ifor Lloyd o Gyngor Cymuned Llanfair Talhaearn ei fod yn ddiolchgar am y cyfle i fod yn rhan o'r cynllun.
"Rydym yn gobeithio y bydd pobl - boed yn dwristiaid neu'n drigolion lleol - yn gwneud defnydd da o'r dechnoleg yma," meddai.
Bydd y meinciau'n casglu data am faint o ynni y maen nhw'n ei gynhyrchu, faint sy'n cael ei ddefnyddio gan y cyhoedd a hefyd faint o ddata wi-fi sy'n cael ei ddefnyddio.
Dywedodd cadeirydd grŵp gweithredu lleol Conwy, y Cynghorydd Goronwy Edwards: "Mae meinciau Steora'n cael eu cynhyrchu yn Croatia ac yn cael eu gosod ar draws y byd, ond dyma'r rhai cyntaf i gael eu rhoi yn y DU.
"Y nod yw annog pobl i aros yn hirach mewn ardaloedd gwledig a manteisio ar ynni adnewyddadwy."