Pryder trigolion Bro Morgannwg am ffordd osgoi newydd

  • Cyhoeddwyd
Jon Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jon Williams yn gofyn i'r cyngor bwyllo cyn dod i unrhyw benderfyniad

Mae trigolion ym Mro Morgannwg yn poeni am ddyfodol eu cartrefi oherwydd cynlluniau i adeiladu ffordd osgoi trwy un o'r pentrefi.

Bwriad y cynllun ydy gwella cysylltiadau rhwng Maes Awyr Caerdydd ac i leihau tagfeydd ar y ffordd sy'n teithio trwy bentref Pendeulwyn.

Ers 2017 mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn ymgynghori ar ffordd a fyddai'n cysylltu cyffordd 34 yr M4 a'r A48.

Mae'r cyngor yn ymgynghori ar dri cynnig - ffordd y gorllewin, ffordd y dwyrain, ac opsiwn parcio a theithio.

Er bod ffordd y gorllewin yn amharu ar naw o gartrefi, mae'r cyngor wedi ffafrio'r opsiwn yma mewn adroddiad diweddar.

Dywedodd y cyngor nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud eto.

Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar hyn o bryd o gartref Jon Williams

Er bod aelodau o gabinet y cyngor wedi gwadu wrth y BBC bod opsiwn yn cael ei ffafrio, maen nhw'n nodi mewn adroddiad ar 1 Ebrill mai ffordd y gorllewin ydy'r opsiwn gorau.

Byddai ffordd y gorllewin yn costio £56m, o'i gymharu â ffordd y dwyrain a fyddai'n costio £81m.

'Methu meddwl am y peth'

Mae Pendeulwyn yn gartref i Jon Williams a'i wraig ers bron i ugain mlynedd.

Ond dydyn nhw ddim yn siŵr am ba hyd fyddan nhw'n parhau i fyw yno, wrth i'r cyngor ymgynghori ar adeiladu'r ffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Ffordd y gorllewin ydy'r opsiwn mwyaf ffafriol 'yn economaidd', yn ôl adroddiad gan y cyngor

Byddai ffordd y gorllewin yn croesi trwy'r ardd, ac yn codi ar bileri fetrau uwch ben y tŷ.

"Dwi methu meddwl amdan y peth i fod yn onest," meddai Mr Williams.

"Mae o [ei fab] wedi gofyn sawl gwaith os ydy o'n mynd i golli ei gartref o, os ydy o'n mynd i golli ei ystafell wely o.

"Dwi ddim yn gwybod os ni'n mynd i fyw yma mewn blwyddyn."

Dim cynigion

Mae Hilary Hanmer a'i merch Rhiannon yn yr un gwch.

Maen nhw'n gyfrifol am werthu tŷ eu modryb sy'n 93 mlwydd oed.

Mae hi'n derbyn gofal, ac angen gwerthu'r tŷ er mwyn gallu parhau i dalu amdano.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hilary Hanmer yn poeni na wnaiff y tŷ werthu am flynyddoedd

Fe fyddai ffordd y gorllewin yn mynd heibio fetrau o'r tŷ, sydd wedi bod yno ers bron i 100 mlynedd.

"Mae hi'n poeni bach achos mae hi'n barod yn talu am ei gofal ac mae hi'n poeni fydd hi angen talu am fwy o ofal yn y dyfodol," meddai Rhiannon.

Eglurodd Hilary bod prynwyr â diddordeb yn y tŷ, ond nad oes neb yn barod i roi cynnig mewn oherwydd risg o'r cynllun.

"Mae pobl yn dod i weld e, ond yn mynd yn ôl i'r estate agent ac yn dweud: 'We love the house, but not with that road plan going through it'."

Dywedodd llefarydd ar Cyngor Bro Morgannwg "eu bod nhw'n parhau i ymchwilio" ac fe "fydd symud i'r cam nesaf yn eu galluogi i ystyried barn y rheini sy'n cael eu heffeithio".

Mae disgwyl i'r ymghyngoriad diweddaraf gael ei ystyried gan Bwyllgor Archwilio y Cyngor ar 23 Mai.