Diffoddwyr yn llwyddo i reoli tân mynydd yn Rhosgadfan
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi llwyddo i ddiffodd tân mynydd sylweddol yn ardal Rhosgadfan ger Caernarfon.
Fe gawson nhw'u galw tua 03:15 fore Sadwrn, a chafodd chwech o gerbydau wedi eu hanfon o Gaernarfon, Llanberis a Bangor.
Fe wnaeth gwyntoedd cryfion amharu ar yr ymdrechion gwreiddiol ond cafodd y tannau eu diffodd ychydig wedi 07:00.
Dywedodd llefarydd fod tanau mewn tri lleoliad gwahanol ar y mynydd
Bu'r ffordd rhwng Rhosgadfan a Waunfawr ar gau am gyfnod.