Marwolaeth bachgen: Ymchwiliad i gyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Llun TeuluFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Carson Price

Dywed Heddlu Gwent eu bod yn ymchwilio i'r posibilrwydd bod cyffuriau anghyfreithlon wedi cyfrannu at farwolaeth bachgen 13 oed.

Cafwyd hyd i Carson Price o Hengoed, Sir Caerffili, yn anymwybodol ym Mharc Ystrad Mynach tua 19:20 ddydd Gwener.

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Sam Payne: "Er ein bod yn aros am gadarnhad meddygol swyddogol i'r farwolaeth, o ran yr ymchwiliad un o'n prif ymholiadau yw y ffocws ar sylweddau anghyfreithlon, a bod hyn wedi chwarae rhan yn y farwoaelth.

"Yn y cyfamser mae timau arbenigol yn cynnig cymorth i deulu Carson yn y cyfnod anodd yma.

"Hoffwn wneud apêl i unrhyw un sydd yn gallu cynorthwyo ein hymchwiliad i gysylltu â ni."

Cafodd Carson Price ei ganfod wrth ymyl coed yn agos i gae rygbi yn y parc.

Dywed yr heddlu eu bod yn trin ei farwolaeth fel un sydd heb ei hesbonio.

Dywedodd Chris Parry, Pennaeth Ysgol Lewis Pengam, fod pawb yn yr ysgol wedi "cael sioc ac wedi'u chwalu o glywed y newyddion ofnadwy".

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael cymorth swyddogion arbenigol yr heddlu.

Dywedodd Mr Parry y byddai'r ysgol yn darparu cefnogaeth ar gyfer y disgyblion a'r staff sydd wedi eu heffeithio.

"Rwy'n sicr y bydd pawb yn ein cymuned yn rhannu ein cydymdeimlad mwyaf dwys i ffrindiau a theulu'r disgybl."