Northants yn agosáu at darged Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Ricardo VasconcelosFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth batiwr agoriadol Northants, Ricardo Vasconcelos, gyrraedd 184 o rediadau wrth i'r ymwelwyr gyrraedd 522-4 ar drydydd diwrnod y gêm bencampwriaeth yng ngerddi Soffia.

Rhannodd bartneriaeth o 303 gyda Rob Newton, gan olygu nad oedd yn rhaid i Northampton fatio'n mlaen.

Roedd mwy o artaith i folwyr Morgannwg wrth Josh Cobb (60) a Rob Keogh (73) ychwanegu at y cyfanswm.

Fe wnaeth y diwrnod orffen gyda Northants 48 rhediad y tu ôl i Forgannwg.