Ymgyrch i adfer gorsaf heddlu Porthcawl
- Cyhoeddwyd
Mae dros 600 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am ragor o bresenoldeb gan yr heddlu ym Mhorthcawl.
Yn ôl un o gynghorwyr y dref mae torcyfraith ar gynnydd yn yr ardal, ac mae angen gorsaf heddlu llawn amser yno.
Ar hyn o bryd mae un rhingyll a swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu yn gweithio yn yr orsaf yn ystod y dydd, ond does dim derbynfa na phresenoldeb 24 awr yno.
Yn ôl y Cynghorydd Les Tallon-Morris mae troseddwyr yn weithgar yno gyda'r nos ac mae'r sefyllfa yn waeth yn ystod yr haf pan mae'r boblogaeth yn cynyddu mewn maint.
Dywedodd Mr Tallon-Morris: "Mae'n wallgof eu bod wedi cau'r orsaf yma mewn tref mor fawr."
Mewn ymateb dywedodd yr heddlu bod dulliau plismona wedi newid ac mae rhan fwyaf o bobl yn defnyddio ffonau symudol, e-bost neu gyfryngau cymdeithasol i gysylltu â'r heddlu, ac mae llai o bobl yn ymweld â gorsafoedd yr heddlu.
Yn ôl yr Arolygydd Melanie Knight mae timau cymunedol yn bresennol yn y dref ac mae'r gyfradd troseddu ym Mhorthcawl yn is na'r cyfartaledd yng Nghymru.