Llwyddiant llyfr ryseitiau cleifion canser Felindre
- Cyhoeddwyd
Mae llyfr coginio, sydd wedi cael ei lunio gan gleifion canser, wedi'i enwebu am wobr ryngwladol.
Mae Llyfr Coginio Felindre yn cynnwys ryseitiau gan gleifion ar ôl iddynt gael triniaeth.
Un o sgîl-effeithiau'r driniaeth yw bod cleifion yn methu â blasu bwyd o gwbl neu bod bwyd yn blasu'n wahanol.
Mae'r llyfr wedi codi dros £10,000 i Ofal Canser Felindre yng Nghaerdydd ac wedi cael ei enwebu yng ngwobrau'r Gourmand World Cookbook yn China.
Cafodd y llyfr ei ysbrydoli gan brofiad Angharad Underwood, a gafodd driniaeth yn yr ysbyty at ganser y fron yn 2014.
O ganlyniad i'r driniaeth mi gollodd ei gwallt ac roedd yn teimlo'n sâl ond tipyn o "sioc" iddi oedd canfod ei bod wedi colli'r gallu i flasu.
"Roeddwn wedi paratoi fy hun ar gyfer blinder," meddai, "ond roedd newid yn fy synnwyr blasu yn siom ac fe wnaeth e wneud i fy sylweddoli pa mor bwysig yw bwyd.
"Un o'r pethau yr oeddwn yn parhau i gael blas arno oedd fy jam cwrens duon cartref."
Felly aeth Angharad ati i greu ryseitiau a oedd yn cynnwys y jam a dyna oedd ei phrif fwyd yn ystod y driniaeth.
Ychwanegodd: "Roedd cael blas cryf yn bwysig yn ystod y driniaeth - roedd y jam yn rhoi hwb i fi gan ei fod yn llawn blas a fitaminau. Roedd e'n berffaith."
Fe gymerodd hi bum mis i synnwyr blasu Angharad ddod nôl i normal. Erbyn hyn mae hi'n ddi-ganser ac yn gwerthu potiau o jam er budd yr elusen.
Mae rysáit Angharad - a'i stori - wedi'u cynnwys yn y llyfr sydd wedi cael ei greu gan Ceri Harris o Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
Ynghyd â straeon ac atgofion cleifion, mae'r llyfr hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan yr actor Michael Sheen a chyfraniadau gan gogyddion fel Chris Harrod - enillydd seren Michelin.
'Mwy na llyfr coginio'
Dywedodd Ceri Harris: "Dros y blynyddoedd, rwyf wedi bod yn siarad â chleifion ac un o'r pethau sy'n cael ei drafod o hyd yw bwyd a pha mor anodd yw prydau bwyd.
"Mae'n fwy na llyfr coginio. Roeddwn am greu llyfr a oedd yn cynnwys atgofion pobl ac mae bwyd yn rhywbeth sy'n dod â phawb ynghyd."
Mae'r llyfr eisoes wedi'i enwi y llyfr coginio gorau er budd codi arian i elusen.
Bydd nesaf yn cael ei enwebu ar gyfer gwobr ryngwladol yn Macau ar Orffennaf 3.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2016