£850,000 i ganolfan cefnogi cleifion canser Felindre

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Ganser FelindreFfynhonnell y llun, Mick Lobb/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd

Bydd canolfan dros dro fydd yn rhoi cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i gleifion canser yn agor yn Ysbyty Felindre, Caerdydd wedi i'r llywodraeth roi £850,000 tuag at y gwaith.

Bydd Canolfan Maggie wedi'i lleoli ar safle Ysbyty Felindre yn Yr Eglwys Newydd, ac yn rhoi cefnogaeth i gleifion yr ysbyty dros dro.

Yn 2022 bydd Ysbyty Felindre yn cael ei ailwampio'n llwyr a bydd y datblygiad newydd yn cynnwys canolfan gefnogi.

Mae Canolfannau Maggie yn annibynnol, ond maent yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd ar draws Prydain.

'Mwy i'w wneud'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Mae nifer ohonom yn adnabod rhywun sydd wedi brwydro yn erbyn canser ac wedi gweld yr effaith y mae'r cyfan yn ei gael ar y claf, ei deulu a'i ffrindiau.

"Ry'n ni'n ymwybodol bod mwy o bobl yn dioddef o ganser yng Nghymru. Ry'n ni'n falch fod mwy yn goroesi ond ry'n ni'n gwybod bod wastad mwy o waith i'w wneud yn y maes."

Mae canolfan debyg yn bodoli yn Abertawe eisoes. Yn ôl Laura Lee, prif weithredwr Canolfannau Maggie, mae mwy o bobl wedi bod yn teithio cryn bellter er mwyn derbyn y gefnogaeth sy'n cael ei chynnig yng nghanolfannau Maggie.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Ganser Felindre
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Ganolfan Ganser Felindre agor yn 2022