Pryder am ddiffyg cyfeirio cleifion cyffuriau ac alcohol
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn marw oherwydd nad ydyn nhw'n cael y driniaeth maen nhw angen i ddelio â cham-drin cyffuriau ac alcohol, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Ar yr un pryd, mae pennaeth yr unig ganolfan adfer i breswylwyr yng Nghymru wedi dweud ei fod ond 60% yn llawn.
Dywedodd canolfan Brynawel Rehab yn Rhondda Cynon Taf nad ydyn nhw'n cael digon o bobl wedi'u cyfeirio atyn nhw gan gynghorau i fod yn gost-effeithiol.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod £1m yn cael ei bennu eleni yn benodol i gefnogi adfer preswyl.
Mae canolfan Brynawel yn Llanharan yn elusen sy'n rhoi gofal preswyl a therapi i helpu pobl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol dwys.
Ar gyfartaledd y llynedd, 12 o'r 20 gwely sydd yn y ganolfan oedd yn llawn.
'Cleientiaid mwy eithafol'
"Mae gennych chi gyfnodau helaeth o'r flwyddyn ble mai dim ond tua hanner y gwelyau sy'n llawn," meddai'r prif weithredwr David Richards.
"Mae'r math o gleientiaid ry'n ni'n trin yma â phroblemau eithafol - maen nhw wedi bod yn yfed ers 10, 20 mlynedd, ac mae eu hiechyd meddwl yn llawer mwy cymhleth.
"Felly ni fyddai cyfarfod â chwnselydd unwaith pob pythefnos yn gweithio."
Ond dywedodd Mr Richards ei fod yn synnu nad yw'r ganolfan wedi cael cleientiaid wedi'u cyfeirio yno o ddinasoedd mawr fel Caerdydd ac Abertawe.
'Dysgu bod ar ben fy hun'
Bu'n rhaid i Jon Hardisty, 30, ddisgwyl am flwyddyn i Gyngor Sir Fynwy ariannu lle iddo fynychu Brynawel.
Tra'n disgwyl, aeth pethau mor ddrwg fel ei fod wedi dechrau dwyn er mwyn cael mynd i'r carchar i geisio osgoi cyffuriau.
Dywedodd ei fod wedi bod yn defnyddio cyffuriau ers oedd yn 12 oed, ond mae bellach wedi mynd pum mis heb eu defnyddio.
"Rydw i wedi gorfod dysgu sut i fod gyda phobl eraill heb gyffuriau," meddai.
"Rydw i hefyd wedi dysgu bod ar ben fy hun heb y cyffuriau."
'Wedi achub fy mywyd'
Mae Tim - nid ei enw iawn - o Aberystwyth wedi bod yn ariannu ei gyfnod ym Mrynawel ei hun wedi i'w broblem cocên fynd allan o reolaeth.
Tra'n gweithio yn Llundain, dywedodd ei fod yn gwario tua £850 yr wythnos ar gyffuriau.
"Rydw i mor ddiolchgar 'mod i wedi gallu cael lle yma - mae wedi achub fy mywyd," meddai.
"Roeddwn i'n cael fy llinell gyntaf ar ôl brecwast, ac roedd gen i larwm ar fy ffôn - 45 munud - oherwydd doeddwn i ddim eisiau bod yn ei gymryd yn amlach na hynny.
"Mae'n swnio'n hurt nawr. Roeddwn i'n cymryd cocên pob 45 munud, pob awr roeddwn i'n effro, nes 'mod i'n rhoi fy hun i gysgu gyda ketamine a valium."
Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod cynnydd parhaus wedi bod yn nifer y marwolaethau'n ymwneud ag alcohol, a chynnydd sydyn yn nifer y rhai'n ymwneud â chyffuriau yn y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd yr AC Ceidwadol, Mark Isherwood ei fod wedi bod yn codi'r mater gyda Llywodraeth Cymru ers dros ddegawd.
"Os gennych chi fwy o bobl yn marw oherwydd cyffuriau neu alcohol, yma mae rhywbeth o'i le gyda'r system," meddai.
"Dyw hynny ddim yn ddigon da. Mae pobl yn cael dolur, mae pobl yn dioddef, mae pobl yn marw."
'Ymrwymo dros £50m'
Fe wnaeth adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru y llynedd amlygu nifer o'r problemau gafodd eu codi gan Mr Richards a Mr Isherwood.
Tra bod pobl wedi dweud eu bod yn hapus gyda'u triniaeth, dywedodd nifer eu bod wedi cael trafferthion yn cael mynediad at y gwasanaethau hynny oherwydd amseroedd aros hir a diffyg nawdd ar gyfer llefydd mewn canolfannau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Eleni ry'n ni wedi ymrwymo dros £50m i sicrhau bod pobl yn cael yr help a'r gefnogaeth maen nhw eu hangen i ddelio gydag effaith camddefnyddio sylweddau - bydd £1m yn mynd yn benodol at gefnogi adfer preswyl.
"Bydd tua hanner y nawdd - £25m - yn mynd yn syth i'r byrddau cynllunio ardal, sy'n gyfrifol am asesu, comisiynu a darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2015