Colli 104 o swyddi wrth gau ffatri REHAU yn Amlwch

  • Cyhoeddwyd
Ffatri REHAUFfynhonnell y llun, Google

Bydd 104 o swyddi yn cael eu colli wedi i Grŵp REHAU gyhoeddi y byddan nhw'n cau eu ffatri yn Amlwch.

Yn ôl y cwmni, sy'n cynhyrchu nwyddau plastig, mae dirywiad wedi bod yn y farchnad.

Dywedodd REHAU eu bod wedi gwneud "ymdrechion sylweddol" i ddiogelu'r ffatri, ond nad oedd y rheiny'n llwyddiannus.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni mai eu bwriad yw cau'r ffatri cyn diwedd 2019.

Fe wnaeth y cwmni ddechrau cyfnod ymgynghorol 90 diwrnod ym mis Ionawr.

Dywedodd AS Ynys Môn, Albert Owen, ei fod yn siomedig fod y cwmni wedi penderfynu nad oedd y syniadau gafodd eu cynnig gan y gweithlu yn ddigon i achub y ffatri.

Ychwaengodd y byddai'n parhau i roi pwysau ar REHAU i newid eu meddwl.

Yn ôl REHAU roedd ystyriaeth gofalus wedi eu rhoi i gynigion y gweithwyr ond yn "anffodus byddai'r rhain ddim yn ddigonol i sicrhau dyfodol hir dymor y ffatri.

"Bydd ein sylw nawr ar gefnogi'r staff yn y cyfnod heriol hwn."

'Ergyd drom'

Mae'r newyddion yn ergyd arall i ogledd Môn yn dilyn penderfyniad cwmni Hitachi ddechrau'r flwyddyn i atal yr holl waith ar gynllun £12bn Wylfa Newydd.

Dywedodd Aled Morris Jones, un o gynghorwyr sir yr ardal, ar raglen y Post Cyntaf Radio Cymru fod y penderfyniad REHAU "yn ergyd drom ofnadwy yn enwedig o ran yr oedi gyda'r atomfa newydd."

"Rhaid i ni obeithio am y gorau, mae'n rhaid edrych i'r dyfodol - a allai'r safle gael ei ddefnyddio gan rywun arall.

"Mae yna weithlu yn fama, mae'n rhaid i ni droi pob carreg i weld a oes modd cael rhyw ddiwydiant yn ôl i Amlwch, mae yna weithlu brwdfrydig yma."

Dywedodd Ken Skates gweinidog yr economi: "Mae Llywodraeth Cymru ynghyd â'r awdurdod lleol a phartneriaid eraill wedi cydweithio'n agos wrth gefnogi'r cwmni er mwyn ceisio cael datrysiad positif yn ystod y cyfnod ymgynghorol - felly mae'r newyddion yma yn hynod siomedig.

Gostyngiad mewn galw

"Mae ein meddyliau gyda'r gweithwyr a'u teuluoedd a byddwn yn gwneud popeth posib i'w cefnogi," meddai.

"Fel llywodraeth rydym wedi ymrwymo i'r ardal ac o ran buddsodi yn Sir Fôn er mwyn cefnogi llewyrch economaidd yr ynys yn y dyfodol."

Daeth i'r amlwg ym mis Ionawr bod y cwmni yn ystyried cau'r safle, wrth iddyn nhw nodi bod gostyngiad o 70% wedi bod yn y galw am gynnyrch REHAU.

Ar y pryd dywedodd llefarydd nad oedd modd newid y ffatri yn Amlwch i gynhyrchu nwyddau gwahanol am fod prinder lle ar y safle.

Dyw'r penderfyniad i gau ddim yn effeithio ar y ffatri sydd gan REHAU ym Mlaenau Ffestiniog.