Nifer fwyaf erioed o droseddau â chyllyll yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y troseddau'n ymwneud â chyllyll yng Nghymru wedi codi i'w lefel uchaf erioed, yn dilyn cynnydd o 23% yn y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd yna gynnydd ar y cyfan o 10% yn nifer y troseddau a gafodd eu cofnodi gan heddluoedd Cymru yn 2018, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Roedd yna gynnydd o 22% yn nifer yr achosion o drais yn erbyn y person, medd y Swyddfa Ystadegau.
Ond roedd yna ostyngiad yn nifer yr achosion o ddwyn a throseddau'n ymwneud â cherbydau, ac roedd nifer y marwolaethau anghyfreithiol yn llai nag yn y ddwy flynedd flaenorol.
Ffigyrau trosedd yng Nghymru yn 2018:
Roedd 1,353 o droseddau'n ymwneud â chyllyll yng Nghymru yn 2018 - cynnydd o 23% o'i gymharu â 2107, gyda thros hanner yr achosion yn ne Cymru.
Cododd cyfanswm y troseddau i 250,104.
Roedd cynnydd o 20% mewn trosedd yn ardaloedd Heddluoedd Gwent a Gogledd Cymru, tra bod Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu De Cymru wedi cofnodi cynnydd llai, sef 3%.
Troseddau stelcian ac aflonyddu oedd i gyfrif am y cynnydd uchaf o ran canrannau mewn 12 mis, sef 47% - mae'r lluoedd eisoes wedi dweud bod ffigyrau'n codi o ganlyniad ffordd newydd o gofnodi troseddau o'r fath.
Cafodd 27 o bobl eu llofruddio neu eu lladd yn anghyfreithlon yng Nghymru y llynedd - 35 oedd y ffigwr yn 2016 a 2017.
Cynnydd o 7% yn nifer y troseddau'n ymwneud â thwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron.
Cafodd 11,899 o droseddau eu cyfeirio at y Swyddfa Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol yn 2018.
Roedd y cynnydd uchaf o blith heddluoedd Cymru yn ardal Heddlu Gwent - 14% o'i gymharu â 2017 - ond ar draws Cymru roedd cyfradd yr achosion o dwyll a chamddefnyddio cyfrifiaduron yn is na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Lloegr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2018