Storm Hannah: Rhybudd am wyntoedd cryfion nos Wener
- Cyhoeddwyd

Mae'r rhybudd wedi ei ymestyn ar gyfer Cymru gyfan
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn rhybudd melyn Storm Hannah i gynnwys Cymru gyfan.
Yn wreiddiol, roedd y rhybudd am wyntoedd cryfion ar gyfer de a gorllewin Cymru yn unig.
Fe ddaw'r rhybudd i rym am 21:00 nos Wener, ac fe fydd yn para tan 15:00 brynhawn Sadwrn.
Mae disgwyl i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu hamharu dros y cyfnod, ac mae posib y gallai pontydd gael eu cau i gerbydau uchel.
Y tebygrwydd yw y bydd gwasanaethau bysiau, trenau, awyrennau a llongau fferi yn ddioddef.
Yn ogystal, mae bygythiad i gyflenwadau trydan a gwasanaethau eraill gan fod disgwyl i ganghennau coed gael eu chwythu i lawr.
Mewn ardaloedd arfordirol, mae'n bosib y bydd cymunedau'n diodde' o ganlyniad i donnau uchel iawn gyda pheth llifogydd yn bosibl.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd "Fe fydd gwyntoedd cryfion yn lledu o orllewin Cymru nos Wener, ac yn ar draws gweddill Cymru dros nos ac ystod dydd Sadwrn.
"Mae'r gwyntoedd yn debygol o gyrraedd cyflymdra o rhwng 60-70 mya mewn rhannau o'r arfordir yn y bore, gyda chyflymdra o rhwng 45-55 mya yn fwy tebygol mewn ardaloedd eraill. "